Home Page

Y Cwricwlwm

Rhagarweiniad

 

Cwricwlwm ein hysgol yw’r holl weithgareddau a gynlluniwyd yr ydym yn eu trefnu er mwyn

hybu dysgu, twf a datblygiad personol. Mae’n cynnwys gofynion ffurfiol y

Cwricwlwm Cenedlaethol, Datblygu Cymhwysedd Digidol , Y Fframwaith Rhifedd a Llythrennedd ond hefyd y gweithgareddau allgyrsiol amrywiol y mae’r ysgol yn eu trefnu i gyfoethogi profiadau a chyfleoedd y disgyblion.

 

Mae hefyd yn cynnwys y ‘cwricwlwm cudd’ - yr hyn y mae’r plant yn ei dysgu o’r ffordd y cant eu trin a’r ymddygiad a ddisgwylir ganddynt. Ein dymuniad yw i’r plant dyfu’n bobl gadarnhaol a chyfrifol, sy’n gallu gweithio a chydweithio gydag eraill ac ar yr un pryd, datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, er mwyn cyflawni eu gwir botensial. Rydym yn ceisio’r safonau cyrhaeddiad gorau posib i’n holl blant. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi ehangder y cwricwlwm a ddarperir gennym. Ein nod yw meithrin creadigrwydd yn ein plant, a’u helpu i fod yn ddysgwyr annibynnol. Uwchlaw popeth, credwn y dylai dysgu fod yn hwyl.

 

Trefn a Chynllunio

 

Er ein bod yn parhau i ddilyn nifer fawr o gynlluniau stadudol :

Cwricwlwm Cenedlaethol (diwygiad 2008)
Fframwaith Rhifedd, Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol
Cynllun Sylfaen
Cynllun Sylfaen ( diwygiad 2015)
Fframwaith Cymhwysedd Digidol 2016

 

Ceisiwn gamu tuag at Ddyfodol Llewyrchus yr Athro Donaldson. Addaswyd  ein cynllunio a Chwricwlwm yn Ionawr 2018. Er mwyn cynllunio bum yn darparu themâu tymhorol i ddosbarthiadau. Fe fydd yr athrawon yn adeiladu ar ben y themau yma gan ddefnyddio’r FfLlRh ayyb.

 

Eleni byddwn yn mabwysiadu dull newydd o gynllunio yn seiliedig ar waith Ysgol Albert ym Mhenarth. Fe fydd yr arddull newydd o gynllunio yn cynnig nifer o fanteision o safbwynt cymhelliant a diddordeb staff a phlant. Fe fydd hefyd yn gofyn i athrawon ddefnyddio’r Fframwaith i gynllunio tymor y dosbarth.

 

Fe fydd y pwyslais pynciol ( Cwricwlwm 2008) yn newid i bwyslais sicrhau cyfleoedd i ymarfer sgiliau yn drawsgwricwlaidd.

 

Cefnogir y cynllunio gwreiddiol gydag adroddiadau manwl o system tracio Incerts wedi eu paratoi gan tim rheoli’r Ysgol. Defnyddiwn Incerts hefyd i fonitro’n hymweliadau  traws cwricwlaidd.

 

Byddwn yn parhau i ddysgu Gwyddoniaeth, Addysg Grefyddol, sgiliau sylfaenol rhif, llythrennedd a TGCh ar wahân o Fedi 2018

 

Amlinelliad o egwyddorion ein strwythur cynllunio newydd.