Home Page

Y Cwricwlwm

Datganiad o Genhadaeth yr ysgol yw:

Dyfal Donc a Dâl

Teimlwn fod hwn yn adlewyrchu ein neges i bawb i geisio eu gorau drwy’r amser ac

mi fydd dyfalbarhad yn talu ffordd yn y pen draw.

 

Ein nod yw cynnig addysg a gofal o’r safon uchaf mewn awyrgylch hapus, caredig, gweithgar a diogel fel bod pob plentyn, beth bynnag eu gallu, yn cyrraedd eu llawn potensial.

 

Yng Nghoed-y-Gof ein bwriad yw creu cymuned ysgol sy’n:

 

  • cynnwys pawb ac sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb
  • gwerthfawrogi yr unigolyn
  • ennyn parch yn y plant at eu hunain ac eraill
  • dathlu cyflawniad
  • creu ymwybyddiaeth gref o Gymreictod a meithrin balchder yn yr iaith
  • paratoi y plant at y cam nesaf yn eu haddysg ac mewn bywyd
  • rhoi profiadau cofiadwy a gwerthfawr i pob disgybl

 

 

 

 

 

 

 

Polisi Cwricwlwm

Rhagarweiniad

 

Cwricwlwm ein hysgol yw’r holl weithgareddau a gynlluniwyd yr ydym yn eu trefnu er mwyn

hybu dysgu, twf a datblygiad personol. Mae’n cynnwys gofynion ffurfiol y

Cwricwlwm Cenedlaethol, Datblygu Cymhwysedd Digidol , Y Fframwaith Rhifedd a Llythrennedd ond hefyd y gweithgareddau allgyrsiol amrywiol y mae’r ysgol yn eu trefnu i gyfoethogi profiadau a chyfleoedd y disgyblion.

 

Mae hefyd yn cynnwys y ‘cwricwlwm cudd’ - yr hyn y mae’r plant yn ei dysgu o’r ffordd y cant eu trin a’r ymddygiad a ddisgwylir ganddynt. Ein dymuniad yw i’r plant dyfu’n bobl gadarnhaol a chyfrifol, sy’n gallu gweithio a chydweithio gydag eraill ac ar yr un pryd, datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, er mwyn cyflawni eu gwir botensial. Rydym yn ceisio’r safonau cyrhaeddiad gorau posib i’n holl blant. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi ehangder y cwricwlwm a ddarperir gennym. Ein nod yw meithrin creadigrwydd yn ein plant, a’u helpu i fod yn ddysgwyr annibynnol. Uwchlaw popeth, credwn y dylai dysgu fod yn hwyl.

 

Trefn a Chynllunio

 

Er ein bod yn parhau i ddilyn nifer fawr o gynlluniau stadudol :

Cwricwlwm Cenedlaethol (diwygiad 2008)
Fframwaith Rhifedd, Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol
Cynllun Sylfaen
Cynllun Sylfaen ( diwygiad 2015)

Fframwaith Cymhwysedd Digidol 2016

 

Ceisiwn gamu tuag at Ddyfodol Llewyrchus yr Athro Donaldson. Addaswyd  ein cynllunio a Chwricwlwm yn Ionawr 2018. Er mwyn cynllunio bum yn darparu themâu tymhorol i ddosbarthiadau. Fe fydd yr athrawon yn adeiladu ar ben y themau yma gan ddefnyddio’r FfLlRh ayyb.

 

Eleni byddwn yn mabwysiadu dull newydd o gynllunio yn seiliedig ar waith Ysgol Albert ym Mhenarth. Fe fydd yr arddull newydd o gynllunio yn cynnig nifer o fanteision o safbwynt cymhelliant a diddordeb staff a phlant. Fe fydd hefyd yn gofyn i athrawon ddefnyddio’r Fframwaith i gynllunio tymor y dosbarth.

 

Fe fydd y pwyslais pynciol ( Cwricwlwm 2008) yn newid i bwyslais sicrhau cyfleoedd i ymarfer sgiliau yn drawsgwricwlaidd.

 

Cefnogir y cynllunio gwreiddiol gydag adroddiadau manwl o system tracio Incerts wedi eu paratoi gan tim rheoli’r Ysgol. Defnyddiwn Incerts hefyd i fonitro’n hymweliadau  traws cwricwlaidd.

 

Byddwn yn parhau i ddysgu Gwyddoniaeth, Addysg Grefyddol, sgiliau sylfaenol rhif, llythrennedd a TGCh ar wahân o Fedi 2018

 

Amlinelliad o egwyddorion ein strwythur cynllunio newydd.

 

 

Y cwricwlwm a chynhwysiad

 

Cynllunnir y cwricwlwm yn ein hysgol fel bod yr holl blant yn yr ysgol yn gallu cael mynediad

iddo. Os credwn fod angen addasu mynediad rhai plant i’r cwricwlwm, er mwyn diwallu eu

hanghenion, yna gwnawn hyn yn dilyn ymgynghori â’u rhieni.

Os oes anghenion dysgu ychwanegol gan blant, mae ein hysgol yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ddiwallu anghenion yr unigolyn, ac rydym yn cydymffurfio â’r gofynion a ddisgrifir yn y Cod Ymarfer ADY. Os bydd plentyn yn arddangos arwyddion bod ganddo anghenion arbennig, bydd ei athro/athrawes yn asesu’r angen hwn. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr athrawon yn gallu darparu’r adnoddau a’r cyfleoedd addysgol i ddiwallu anghenion y plentyn, o fewn trefniadau arferol y dosbarth. Os bydd anghenion y plentyn yn fwy difrifol, byddwn yn ystyried gwneud cais am ddatganiad o anghenion arbennig, a byddwn yn cynnwys yr asiantaethau allanol priodol wrth wneud yr asesiad. Rydym bob amser yn darparu adnoddau a chefnogaeth ychwanegol i blant ag anghenion arbennig.

 

Mae’r ysgol yn darparu Cynllun Addysg Unigol (CAU) i bob plentyn sydd ar y gofrestr

anghenion arbennig. Mae hwn yn disgrifio natur yr angen arbennig, ac yn amlinellu sut mae’r

ysgol yn bwriadu mynd i’r afael â hynny. Mae’r CAU hefyd yn pennu’r targedau ar gyfer

gwelliant, fel y gallwn adolygu a monitro cynnydd pob plentyn yn rheolaidd.

 

Ein nod yw diwallu anghenion pob grŵp o blant yn ein hysgol. Mae’r ysgol yn cydymffurfio’n

llwyr â gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd diwygiedig a ddaeth i rym ym

Medi 2002. Cyflawnir pob cam rhesymol i sicrhau nad yw’r plant hyn dan anfantais sylweddol o’u cymharu â phlant eraill. Addasir y dysgu a’r addysgu yn briodol ar gyfer plant ag anableddau. Er enghraifft, mae’n bosib y rhoddir mwy o amser iddynt i gyflawni rhai

gweithgareddau, neu efallai yr addasir y deunyddiau addysgu.

 

 

Y Cyfnod Sylfaen

Mae’r cwricwlwm yr ydym yn ei addysgu yn y dosbarth derbyn yn bodloni’r gofynion a

ddisgrifir yn y Canlyniadau Dymunol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Mae’r cynllunio ar gyfer y

cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a phrofiadau’r plant

Mae ein hysgol yn cefnogi’n llwyr yr egwyddor bod plant bach yn dysgu drwy chwarae, a

thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau strwythuredig wedi’u cynllunio’n dda. Mae’r

addysgu yn y dosbarth derbyn yn adeiladu ar brofiadau’r plant yn eu dysgu cyn-ysgol. Gwnawn ein gorau glas i ddatblygu partneriaethau cadarnhaol gyda’r meithrinfeydd a’r darparwyr cyn ysgol amrywiol eraill yn yr ardal.

 

Bydd yr athrawon yn asesu’n gyson datblygiad sgiliau pob plentyn bob tymor, ac yn cofnodi gyda chymorth sylwadau eu tîm cynorthwyo dysgu. Bydd yr asesiadau hyn yn rhan bwysig o’r cynllunio cwricwlaidd ar gyfer y dyfodol i bob plentyn. Rydym yn ymwybodol iawn bod angen cefnogaeth rhieni ac athrawon fel ei gilydd ar blant er mwyn datblygu’n dda yn yr ysgol. Rydym yn ymdrechu i adeiladu cysylltiadau cadarnhaol â rhieni pob plentyn drwy eu hysbysu am yr hyn y mae’r plant yn ei ddysgu, a sut mae pob plentyn yn datblygu.

 

Sgiliau allweddol

 

Yn y Cwricwlwm Cenedlaethol diwygiedig, nodir y sgiliau canlynol fel ‘sgiliau allweddol:

cyfathrebu;

cymhwyso rhif;

technoleg gwybodaeth;

gweithio gydag eraill;

gwella’ch dysgu a’ch perfformiad eich hunan;

datrys problemau.

 

Wrth gynllunio’r cwricwlwm, rydym yn pwysleisio’r sgiliau hyn.

 

Datblygu Arweinwyr  Rhifedd, Llythrennedd a Thechnoleg

 

Mae ffurfio ac arwain timoedd yn rhan o swydd ddisgrifiad aelodau’r tim arwain. Disgwylir iddynt

 

darparu arweiniad strategol a chyfeiriad ar gyfer y maes

cefnogi a chynghori cydweithwyr ar faterion sy’n ymwneud â’r maes

monitro cynnydd disgyblion yn y maes

darparu rheolaeth effeithlon o ran adnoddau ar gyfer y maes

 

Disgwylir i adranau cyfarfod yn gyson yn ystod y flwyddyn er mwyn adolygu’r addysgu a chynllunio ar gyfer gwelliant. Mae’r cynllunio datblygu hwn wedi’i gysylltu â nodau ysgol gyfan.

 

Monitro ac adolygu

 

Bydd pob arweinydd Adran yn monitro cynllunio ac yn casglu esiamplau / trafod gyda disgyblion er mwyn asesu cynnydd , sicrhau bod dilyniant yn glir, cynllunio ar wahân ar gyfer Gwyddoniaeth, Add G a ThGCh

 

Ein corff llywodraethu sy’n gyfrifol am fonitro’r ffordd y mae cwricwlwm yr ysgol yn cael ei weithredu ac fe wahoddir arweinwyr penodol i wneud cyflwyniadau i’r Llywodraethwyr yn achlysurol . Mae llywodraethwr penodol (Cerith Williams) wedi’i ddynodi ar gyfer anghenion arbennig, sy’n cydgysylltu â’r ALENCO, ac yn monitro’r ffordd yr eir ati i fynd i’r afael ag anghenion arbennig.

 

Y pennaeth sy’n gyfrifol am drefnu’r cwricwlwm o ddydd i ddydd. Mae aelodau’r tîm rheoli  yn

monitro’r cynlluniau gwersi . Fe fydd arweinydd pob adran yn cyfarfod gyda’r Pennaeth yn wythnosol mewn cyfarfod Tim Rheoli