Home Page

Gwrth Fwlio

Cyflwyniad

Mae bwlio’n effeithio pawb nid yn unig y bwlis a’r dioddefwyr. Mae hefyd yn effeithio’r plant eraill hynny sy’n gwylio, a gall disgyblion llai ymosodol gael eu denu i mewn dan wasgedd grŵp. Nid yw bwlio’n rhan annatod o fywyd ysgol nac yn rhan hanfodol o dyfu i fyny, ac anaml iawn mae’n datrys ei hun.

 

Mae’n amlwg bod jôcs arbennig, sarhad, ymddygiad neu sylw hiliol, ymddygiad brawychus / bygythiol enllib ysgrifenedig a thrais i’w canfod yn ein cymdeithas.

 

Ni ddylai un person neu grŵp, boed yn staff neu ddisgybl, orfod derbyn y math hwn o ymddygiad. Dim ond pan wynebir pob mater o fwlio y medra blentyn elwa orau o’r cyfleoedd sydd ar gael yn yr Ysgol.

 

Pam y mae polisi gwrth-fwlio’n angenrheidiol?

Mae Ysgol Coed-Y-Gof  yn credu fod gan ein disgyblion yr hawl i ddysgu mewn awyrgylch cynhaliol, gofalgar a diogel, heb ofn cael eu bwlio.

 

Mae pob sefydliad, boed yn fawr neu’n fach, yn cynnwys ambell ddisgybl â’r potensial i fwlio. Os yw ysgol yn ddisgybledig ac yn drefnus iawn, mae’n gallu lleihau’r posibilrwydd o fwlio’n digwydd. Mae gan yr Ysgol hefyd, ethos clir ynglŷn â hybu dinasyddiaeth dda, mae bwlio’n ffurf o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ni chaiff ei oddef.

 

Mae’n bwysig, felly, fod gan yr Ysgol bolisi ysgrifenedig clir i hyrwyddo’r gred hon, ble mae disgyblion a rhieni/gwarcheidwaid, yn ogystal, yn llwyr ymwybodol y caiff cwynion am fwlio eu trin yn gadarn, yn deg ac yn brydlon.

 

Beth yw bwlio?

Mae pob digwyddiad o fwlio’n eithaf unigryw. Rhaid bod yn ddoeth a phwyllog i geisio canfod a ydyw digwyddiad yn un neilltuol ac yn weddol ddiniwed neu’n dystiolaeth o fwlio. Gall bwlio ddigwydd ar ffurf sawl math o ymddygiad anghymdeithasol. Gall hyn fod yn :-

a) Gorfforol.
Gall plentyn gael ei daro, ei gicio, ei fwrw, ei boeri arno, ac ati, yn gorfforol.

b) Llafar.
Gall anfri llafar gymryd ffurf o alw enwau. Gall gael ei gyfeirio at ryw, tarddiad ethnig, anabledd corfforol/cymdeithasol, neu bersonoliaeth, ac ati.

c) Eithrio
Gall plentyn gael ei fwlio hyd yn oed wrth gael ei adael allan o drafodaethau/ gweithgareddau, gan y rhai y mae’n credu eu bod yn ffrindiau iddo.

ch) Difrod i eiddo neu ladrad.
Gall ddigwydd bod disgyblion yn cael eu heiddo wedi’i ddifrodi neu’i ddwyn. Gall y bwli fygwth yn gorfforol fel bod y disgybl yn trosglwyddo’r eiddo iddo.

d) Ar-Lein
Mae lluniau anffodus, sylwadau annymunol neu enllib ysgrifenedig oll yn sgil effeithiau anffodus ein cymdeithas ryng-gysylltiedig. Mae gan yr ysgol canllawiau clir ar gyfer y cyfrwng ac fe fyddwn yn gweithredu yn uniongyrchol mewn unrhyw achos o fwlio .

 

Cyngor ar E ddiogelwch i rieni

Mae byd y cyfryngau cymdeithasol yn newid yn gyson. Mae’n anodd iawn cynnig cyngor ac arweiniad i gyd-fynd gyda llanw a thrai diwylliant technolegol. Mae datblygiad cymhwysedd digidol ein disgyblion yn allweddol wrth iddynt dyfu yn ddinasyddion digidol. Gall y cyngor gorau ymddangos yn hen ffasiwn. Mae gwerthoedd teuluol yr aelwyd yn arfogaeth hynod. Mae cwrteisi, meddylgarwch, caredigrwydd, gallu uniaethu ac ystyried eraill yn weision cadarn iawn ar lein.

 

Cyngor i rieni / Gwarcheidwaid

Beth fedrwch ei ddweud wrth eich plentyn os ydyw’n cael ei fwlio?

  • Bydd athrawon yn eich cymryd o ddifrif ac yn ymdrin â bwlis mewn ffordd fydd yn diweddu’r bwlio a heb wneud pethau’n waeth ichi.
  • Cofiwch mai eich distawrwydd chi yw arf bwysicaf bwli!
  • Dywedwch wrthych eich hun nad ydych yn haeddu cael eich bwlio. Byddwch yn falch o bwy ydych. Mae’n beth da i fod yn unigol.
  • Ceisiwch beidio â dangos eich bod wedi cynhyrfu. Mae’n anodd, ond mae bwlis yn mwynhau gweld rhywun yn ofnus.
  • Arhoswch gyda chriw o ffrindiau/pobl. Mae diogelwch mewn grwp
  • Byddwch yn gadarn – dywedwch “Na!” Cerddwch i ffwrdd yn hyderus. Ewch yn syth at athro, aelod o staff.
  • Fel arfer, y peth gorau i’w wneud yw dweud yn syth wrth oedolyn ‘rydych yn ymddiried ynddo. Fe fydd yn eich cefnogi.

 

Cyngor i ddisgyblion

Os gwyddoch chi am rywun sy’n cael ei fwlio:-

Rhaid Gweithredu!

  • Mae gwylio a gwneud dim byd yn edrych fel pe baech chi ar ochr y bwli. Mae’n gwneud i’r person sy’n dioddef deimlo’n fwy anhapus ac unig.
  • Os teimlwch na fedrwch gael eich tynnu i mewn, dywedwch wrth oedolyn AR UNWAITH. Mae gan athrawon ffyrdd o ymdrin â’r bwli heb eich cael chi i drafferth.
  • Peidiwch â bod, nac esgus bod, yn ffrindiau â bwli.

 

Cyngor i rieni

Edrychwch am ymddygiad anarferol yn eich plant. Er enghraifft, ni fyddant, yn sydyn, am fynd i’r ysgol, teimlant yn sâl yn rheolaidd, neu ni fyddant yn cwblhau’u gwaith i’w safon arferol.

 

Chwaraewch ran frwd bob amser yn addysg eich plentyn. Holwch sut ddiwrnod a gawsant, gyda phwy y treulion nhw eu hamser, beth a wnaethant amser cinio ac ati.

Os teimlwch fod eich plentyn yn dioddef o fwlio, rhowch wybod YN SYTH i’r Ysgol. Cymerir eich cwyn o ddifrif ac i ddilyn, fe gymerir y camau gweithredu priodol.

  • Mae’n bwysig eich bod yn cynghori’ch plentyn i beidio ag ymladd yn ôl. Gall waethygu’r mater!
  • Dywedwch wrth eich mab/merch nad oes unrhyw beth yn bod arno/arni. Nid ei fai ef/bai hi ydyw ei fod/bod yn cael ei fwlio/bwlio.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn llwyr ymwybodol o bolisi’r Ysgol ynglyn â bwlio, a nid oes angen ofni gofyn am gymorth.
  • FEL YSGOL BYDDWN YN:-
  • Ymdrin yn gyflym, yn gadarn a theg ag unrhyw gwynion, gan gynnwys y rhieni lle bo’n angenrheidiol.
  • Adolygu Polisi’r Ysgol a’i fesur o lwyddiant.
  • Parhau i feddu ar strwythur disgyblaeth gadarn ond teg. Ychydig fydd y rheolau, yn syml a hawdd eu deall.
  • Ymatal rhag defnyddio deunyddiau neu gyfarpar dysgu sy’n rhoi golwg gwael neu negyddol o unrhyw grŵp oherwydd eu tarddiad ethnig, rhyw, ac ati
  • Annog disgyblion i drafod sut i ddod ymlaen â phobl eraill ac i ffurfio agwedd bositif tuag at bobl eraill.
  • Annog disgyblion i drin pawb â pharch.
  • Trin bwlio fel trosedd ddifrifol gan gymryd pob cam posibl i’w ddileu o’n Hysgol.

 

Y camau i’w cymryd pan ddrwgdybir bwlio.

Os drwgdybir bwlio, fe siaradwn â’r plentyn ‘rydym yn amau sy’n dioddef, y bwli a ddrwgdybir ac unrhyw dystion. Os adwaenir unrhyw radd o fwlio, cymerir y camau canlynol:-

Rhoddir cymorth, cynhaliaeth a chyngor, fel bo’n addas, i’r dioddefwyr a’r bwlis, yn ogystal:

 

‘Rydym yn cynnal y dioddefwyr yn y ffyrdd canlynol:

  • Trwy gynnig cyfle’n syth iddynt siarad am y profiad gyda’u hathro dosbarth, neu athro arall os dewisant.
  • Hysbysu rhieni/gwarcheidwaid y dioddefwyr.
  • Trwy gynnig cynhaliaeth bellach pan deimlant fod angen hynny arnynt.
  • Trwy gymryd un neu fwy o’r saith cam disgyblu a ddisgrifir isod i atal mwy o fwlio.

‘Rydym hefyd yn disgyblu, ond eto’n ceisio helpu’r bwlis yn y ffyrdd canlynol:

  • Trwy siarad am yr hyn a ddigwyddodd, er mwyn darganfod pam aethant i helbul.
  • Rhoi gwybod i rieni/gwarcheidwaid y bwlis.
  • Trwy barhau i weithio â’r bwlis er mwyn cael gwared ar agweddau rhagfarnllyd cyn belled ag y bo modd.
  • Trwy gymryd un neu fwy o’r saith cam disgyblu a ddisgrifir isod i atal mwy o fwlio.

 

Camau disgyblu:

  1. Gweler hefyd polisi gwobrwyon ac ataliadau
  2. Cânt eu rhybuddio’n swyddogol i beidio â throseddu.
  3. Rhoddir gwybod i rieni/gwarcheidwaid y bwlis.
  4. Gallent gael eu diarddel o safle’r Ysgol adeg amser cinio.
  5. Gallem drefnu i rieni eu hebrwng i safle’r Ysgol ac oddi yno.

Os nad ydynt yn peidio â bwlio, cânt eu diarddel am gyfnod byr penodol. Dylid nodi, fodd bynnag, y gellid diarddel ar unwaith (yn ôl doethineb y Pennaeth Gweithredol) ar unrhyw achlysur pan deimlir bod ymddygiad disgybl yn ffurfio bygythiad corfforol.

Os byddant wedyn yn parhau, argymhellir iddynt gael eu diarddel am gyfnod penodol hwy.

 

 

Atodiad 1.

 

Neges i ddisgyblion

Helo!

Gall y rhyngrwyd fod yn hwyl. Gallwch sgwrsio â'ch ffrindiau, chwarae gemau a dysgu am bethau newydd. Ond weithiau mae pethau'n digwydd a all eich gwneud yn ofidus. Efallai y bydd pobl yn dweud  pethau sy'n eich gwneud yn drist 

 

Cofiwch mai nid eich bai chi yw hwn.

 

PAID YMDDIRIED MEWN POBL AR LEIN .

Os ydych chi'n gofidio neu'n poeni am rywbeth sydd wedi digwydd i chi. Gallant eich helpu i roi gwybod amdanynt atom yn CEOP.


Os ydych chi'n teimlo mewn perygl ffoniwch 999 i siarad â'r heddlu. Byddant yn sicrhau eich bod chi'n ddiogel.


Os nad ydych chi'n teimlo bod yna unrhyw un y gallwch siarad â nhw, mae yna bobl yn ChildLine a fydd bob amser yn barod i wrando. Ni fyddant yn dweud wrth unrhyw un arall am yr hyn rydych wedi'i ddweud, sy'n golygu y gallwch chi deimlo'n ddiogel siarad â nhw.

 

Gallwch hefyd ddweud wrthym yn CEOP beth sy'n digwydd fel y gallwn eich helpu chi. 

 

Atodiad 2.

Mae'n bwysig eich bod chi'n siarad â'ch plant am yr hyn maen nhw'n eu mwynhau gwneud ar-lein, cymrwch rhan , chwaraewch gemau gyda nhw, gofynnwch iddynt am eu apps fel eich bod chi'n deall yr hyn maen nhw'n ei ddefnyddio. Does dim rhaid i chi fod yn athrylith cyfrifiadurol i roi cyngor diogelwch ymarferol.

 

Dyma ychydig o ganllawiau ynglŷn â rheoli technoleg ddigidol:

Cadwch hi'n Garedig

Atgoffwch eich plant fod bod yn garedig ar-lein i bawb. Os ydynt yn gweld rhywbeth yn ofidus neu'n cam-drin ar-lein, dylent eu blocio a'u hadrodd, a siarad â chi neu oedolyn dibynadwy arall amdano.

 

Gemau
Edrychwch am y graddau oedran ar y gemau y mae eich plant am eu chwarae - maent yn gweithio mewn ffordd debyg i cyfyngiad oedran ar gyfer ffilmiau - dylid eu parchu. Mae gan gemau labeli hefyd i ddangos a yw'r gêm yn cynnwys trais, cynnwys brawychus ac yn y blaen.

 

Rhannu Lluniau

Mae'n werth meddwl sut rydych chi'n rhannu lluniau a gyda phwy. Rheoli eich rhestrau o gysylltiadau.

 

Yswiriant
Mae cost ffôn neu dabledi weithiau'n cael ei guddio y tu ôl i gontract misol. Gwiriwch y polisi yswiriant. Gall ailosod ffôn sylfaenol gostio hyd at £ 500

 

Dod o hyd i'm Ffôn

Mae'r rhan fwyaf o ffonau neu dabledi nawr yn dod ag app sy'n gallu eich galluogi i ddod o hyd iddo. Er nad yw pwynt pin yn gywir, maen nhw'n rhoi'r gallu i chi gloi'r ddyfais ac i ddileu ei ddata o bell. Efallai eich bod wedi colli'r ffôn ond o leiaf nid oes neb yn edrych trwy'ch lluniau, eich cysylltiadau neu'ch manylion banc.

 

Mynnwch olwg ar ein Tudalennau Diogelwch E os gwelwh yn dda