Home Page

Cor Ysgol

Nadolig Llawen I Chi Gyd

NADOLIG LLAWEN I CHI GYD
 
Brysiwch lawr y grisiau,
Syllwch ar bresantau,
Beic mawr coch ac aur,
Doli ddel i Mair.
Teulu a pherthnasau
A ffrindiau i gyd yn cwrdd,
Mae’r twrci leni’n werth ei weld,
Eisteddwch wrth y bwrdd.
 
Nadolig Llawen i chi gyd,
I deulu mawr y byd,
Ynghanol swn y dathlu
A oes na le i’r Iesu
Neu ydi’r llety’n llawn o hyd?


Brysiwch at ei breseb,
Sylwch ar ei wyneb
Yn y gwely gwair,
Iesu faban Mair,
Doethion a bugeiliaid
Yn addoli yno ynghyd,
Gadewch i ninnau fynd i’w weld
A sefyll wrth ei grud.  

     

Cytgan x 2

Un Seren

Un Seren
 

Pe bawn i’n gallu dweud wrth dad-cu
Fod ‘na ddynion wedi cerdded ar y lleuad

Byddai’n anodd ganddo gredu fod dyn wedi medru mynd mor bell, mor bell

Ond dyna ni, mae’n rhyfedd o fyd.

 

Pe bawn i’n gallu dweud wrth mam-gu
Fod ‘na sêr heibio’r sêr
yn ôl ein gwyddonwyr ni

Byddai’n anodd ganddi gredu fod dyn wedi medru gweld mor bell, mor bell

Ond dyna ni, mae’n rhyfedd o fyd.

 

O! Nid fel ‘na fu hi
Na, ‘roedd pethau yn well bryd hynny
Ond efallai mai fi sy’n hen ffasiwn

 

Un seren, un seren,

Dim ond un seren, oedd yn bwysig i mi,
Dim ond un seren fry uwch Bethle’m,
Dim ond un seren oedd yn bwysig i mi.

 

Mae’r Nadolig yn ddrud, mae’n drafferth,
Mae’r Nadolig yn em, mae’n brydferth,
Ac mae’n anodd gen i gredu
fod dyn wedi medru, anghofio, yn llwyr
Brydferthwch, rhyfeddod yr Wŷl

 

O! Nid fel ‘na fu hi

Na, ‘roedd pethau yn well bryd hynny
Ond efallai mai fi sy’n hen ffasiwn

 

Un seren, un seren,

Dim ond un seren, oedd yn bwysig i mi,
Dim ond un seren fry uwch Bethle’m,
Dim ond un seren oedd yn bwysig i mi.
Dim ond un seren, un seren,
Dim ond un seren oedd yn bwysig i mi
Dim ond un seren fry uwch Bethle’m,
Dim ond un seren oedd yn bwysig i mi.

Hen Hen Stori

Hen Hen Stori.


Seren wen uwch ben y byd,
Baban annwyl yn ei grud,
Mwyn fugeiliaid ar y rhos,
Gwylio’u praidd yn nhrymder nos.

 

Golau’n gylch o entrych Nef,
Oenig bychain yn rhoi bref,
Engyl glân a’u cân yn un
Ganwyd heddiw Geidwad dyn.

 

Dewch, gwrandewch, yr hen, hen stori.
Iesu Grist ddaeth i’n gwaredu.
Dewch a chenwch am y trysor drud.
Yn y gwair, Faban Mair, Gwaredwr byd.

 

Pwy yw’r rhain o’r Dwyrain sydd,
Ar y ffordd yn hwyr y dydd?
Doethion dri yn holi’n daer,
Pa le ganwyd Mab y Saer?

 

Seren wen uwch ben y byd,
Rho dy lewyrch i ni gyd,
Awn yn llu i’r llety gwael
I groesawu’n Prynwr hael.

Rhywle'n Glyd Mewn Atgof

Rhywle’n Glyd Mewn Atgof

 

Atgof o mhlentyndod
Pan o ni’n pum chwech saith mlwydd
Deffro’n syth, llawn syndod
Nefoedd Nadolig mor berffaith

 

Dyddiau annwyl
Pobl gwerthfawr
Gwennu’n llawen, welaf i

 

Rhywle’n glyd mewn atgof
Ddaw’r Nadolig I’m lloni
Byw o hyd mae’r atgof
Yno mae’r canu
Yno mae’r caru
Yno mae’r teulu adre fo fi

 

Dyddiau annwyl
Pobl gwerthfawr
Gwennu’n llawen, welaf i

 

Rhywle’n glyd mewn atgof
Ddaw’r Nadolig I’m lloni
Byw o hyd mae’r atgof
Yno mae’r canu
Yno mae’r caru
Yno mae’r teulu adre fo fi

Yno mae’r canu
Yno mae’r caru
Yno mae’r teulu adre fo fi

Stori'r Preseb

Stori’r Preseb


Bachgen bach Mair, gwely o wair,
Preseb sydd iddo’n grud.
Arffed ei fam geidw rhag cam,
Ceidw rhag poen y byd.
Joseff sy’n driw ffyddlon i’r byw,
Gwarchod ei fab yn daer.
T’wysog y byd, trysor drud,
Iesu yw mab y saer.

 

Cytgan; Hon ydyw stori’r preseb,
Hon ydyw stori’r crud,
Hon ydyw stori Bethlem
Hon ydyw stori’r Byd.

 

Engyl mewn gwyn, bugeiliaid yn syn,
Miwisig ar lethrau’r rhos
Doethion o draw, anrhegion ‘neu llaw,
Seren yn gloywi’r nos.
Herod ar frys laddodd a blys,
Fechgyn holl ardal gron,
Ond Iesu oedd fyw, trwy ras Duw;
Ei stori yw’r stori hon.

 

(Ailadrodd y gytgan ddwy waith)

Diolch Am Y Dolig

Diolch am y 'Dolig (cyfeiliant yn unig)

“Diolch am y Dolig.” “Thank you for the music”


Pennill 1:
Mae’r ddrama drosodd,
Y darnau ‘di syrthio i’w lle.
Pob cân wedi’i chanu
Mae’n amser i bawb fynd tua thre …

Ond dyma ‘i chi stori
Na ddaw byth i ben
Am fabi arbennig sy’n anrheg o’r Nen
Ac mae’r hanes mor fyw -
Hanes Iesu - Iesu mab Duw


Fe ganwn ...
Diolch am y Dolig – y wyrth arbennig
Diolch am bob rhodd caredig
Diolch am y seren,
Am olau angylion fry,
Doethion yn dri,
Diolch am stabal a bugeiliad lu
A chanwn “Diolch am y Dolig”
Am roi y wefr i ni.

 

Pennill 2:

Daeth pawb i’r stabal
I weled y wyrth drosto’i hun.
Mae’r babi ‘di eni
I gynnig rhyw obaith i Ddyn

A dyma’i chi stori
Na ddaw byth i ben
Am fabi arbennig sy’n anrheg o’r Nen
Ac mae’r hanes mor fyw -
Hanes Iesu - Iesu mab Duw

 

Fe ganwn ...
Diolch am y Dolig – y wyrth arbennig
Diolch am bob rhodd caredig
Diolch am y seren,
Am olau angylion fry,
Doethion yn dri,
Diolch am stabal a bugeiliad lu
A chanwn “Diolch am y Dolig”
Am roi y wefr i ni.

 

(Middle 8) – (Pwysig!)

Mae’n bryd mynd adref
Pawb yn mynd nôl i’w dŷ ei hun.
Daethom ynghyd i ddathlu gyda’n gilydd
Dyma rodd, dyma fraint, dyma wefr ....