Home Page

Eisteddfod 2024

Canu Bl2 ac iau

Breuddwydio

 

Pan af i’r gwely gyda’r hwyr,
a miri’r dydd ar ben,
Mi fyddai’n codi’n ddistaw bach
I estyn Ted a Gwen.

 

Tedi , tedi blewog
Cwmni drwy y nos.
A phwy yw hon â’r llygaid glas
Ond Gwen y gath fach dlos.

 

Fe awn i lawr i lan y môr,
A dewis wnawn ein tri
Long fach o aur â hwyliau gwyn
I ddianc dros y lli.

Canu Blwyddyn 3 a 4

Helfa’r Hydref

 

Draw yn y goedwig mae draenog bach trist
Sy’n meddwl ei fod o’n rhy bigog;
Draw yn y goedwig mae wiwer fach drist
Sy’n poeni am gynffon rhy flewog.
Pwy ddaw i’r goedwig i chwilio am ddail
Rhai oren, rhai coch a rhai melyn?
Plant sydd yn chwarae a dawnsio’n y dail
A neidio i’w casglu nhw wedyn.

 

Jac sydd yn gafael mewn dail ar y llawr
Ond gwaedda fod rhywbeth yn pigo;
“Aw! Mae ‘na ddraenog yn cuddio ar lawr
Ac Aw! Mae fy llaw i yn brifo”.
“Plis”, meddai’r draenog, “ga’ i gasglu dail?
Mae pigau yn dda am eu rholio”.
Swish! Ac mae’r wiwer yn helpu’n y dail;
Mae cynffon yn dda am eu brwsio”

 

Draw yn y goedwig mae draenog bach llon
Sy’n llusgo i’w gartref yn araf;
Draw yn y goedwig mae wiwer fach lon
Sy’n cysgu’n y dail dros y gaeaf. Sh!

Canu Bl 5 a 6

Dy enw di

 

Nid oes tywyllwch yn y nos
Ond galw dy enw di,
Ac nid yw’r gaeaf byth yn oer
Pan wyt ti’n fy ymyl i.

 

Nid oes syched yn yr haul
Ond galw dy enw di,
Ac nid yw’r mellt yn codi ofn
Pan wyt ti’n fy ymyl i.

 

Nid oes blino yn y byd
Ond galw dy enw di,
Ac nid yw’r freuddwyd byth yn gas
Pan wyt ti’n fy ymyl i.

 

Ac nid oes wahaniaeth pa mor wan
Rwy’n galw dy enw di,
Nid wyt ti fyth ymhell i ffwrdd
O fod wrth fy ymyl i.

Llefaru Dysgu Sylfaen

Llefaru Dysgu Iau

Can Llys - Calon Lan

Still image for this video

Yr Anthem

Still image for this video