Home Page

Addysg Rhyw a Pherthynas

Cyflwyniad

 

Mae gennym ni fel ysgol ran bwysig wrth effeithio’n gadarnhaol a pharhaol ar iechyd a lles rhywiol ein plant. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo’n llawn i Gonfensiwn y Cenhedlaeth Unedig ar hawliau’r plentyn ac o ganlyniad i hyn dylai pob dysgwr yng Nghymru dderbyn addysg rhyw a pherthnasoedd (ARhPh) o ansawdd uchel yn rhan o’u datblygiad personol a chymdeithasol.

 

Llunwyd y polisi yma yn unol â gofynion y ddogfen ‘Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol 2010-2015’ Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn ôl Deddf Addysg 2002 rhaid i ysgolion cynradd gyflwyno addysg rhyw fel mae wedi’i nodi yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, fodd bynnag, nid oes yn rhaid i ysgolion cynradd ddarparu addysg rhyw fel rhan o’r cwricwlwm sylfaenol. Cyrff llywodraethu’r ysgol mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr sydd wedi penderfynu ar yr ymagwedd orau tuag at addysgu addysg rhyw yn Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof.

 

Ceir cyfleoedd amlwg i addysgu agweddau o ARhPh o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol sef yn ôl gorchmynion y pwnc Gwyddoniaeth ac yn bennaf drwy’r fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru.

 

 

Cysylltiadau â pholisiau eraill:

Gwelir croesgyfeiriadau at bolisiau eraill:

  • Amddiffyn Plant
  • Atal bwlio
  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth

 

Nodau

 

Rydym yn addysgu ein plant am:

  • ddatblygiad corfforol eu cyrff wrth iddynt dyfu’n oedolion;
  • y dull y mae bodau dynol yn atgenhedlu;
  • parch am gyrff eu hunain a phwysigrwydd gweithgaredd rhywiol fel rhan o berthynas ymrwymedig, hirdymor a chariadus;
  •  pwysigrwydd bywyd teuluol;
  • cwestiynau moesol;
  • materion yn ymwneud â pherthynas;
  • parch am safbwyntiau pobl eraill;
  • cam-drin rhywiol, a beth ddylent wneud os ydynt yn poeni am unrhyw fater yn ymwneud a rhyw.

 

 

 

Rheoli a threfnu ARhPh

 

Cyn ddechrau ar y gwersi, mae’n allweddol fod pob dosbarth yn llunio rheolau sylfaenol er mwyn sefydlu terfynau clir ynglŷn â’r hyn sy’n briodol neu’n amhriodol yn yr ystafell dosbarth.

 

Bydd bod blwyddyn yng Nghyfnod Allweddol 2 yn dilyn y cynlluniau gwersi a chynlluniwyd gan Tîm ARhPh Cyngor Caerdydd.

 

 

Cyflwyno’r rhaglen ARhPh

 

Yn ystod ein gwersi ARhPh rydym yn darparu amgylchedd dysgu cefnogol lle gellir cynnal trafodaethau agored ac anfeirnadol am berthnasoedd, rhyw, iechyd a lles rhywiol a rhywioldeb. Mae dangos parch at y naill a’r llall yn ystod y gwersi yma yn allweddol at eu llwyddiant. Cydlynydd Cyfnod Allweddol 2 sydd yn gyfrifol am ddarparu’r rhaglen gan ddilyn canllawiau a gwersi caeth a llunwyd gan dîm ARhPh Cyngor Caerdydd. Dysgir y gwersi i bob grŵp blwyddyn mewn grwpiau rhyw cymysg.

 

Cyn fynd a’r afael â’r gwersi, rhaid i bob blwyddyn sefydlu terfynau clir ynglŷn â’r hyn sy’n briodol neu’n amhriodol yn yr ystafell dosbarth. Yn ei dro, mae hyn yn helpu i greu cydbwysedd rhwng sicrhau bod dysgwyr yn teimlo’n ddiogel ac fel pe baen nhw’n cael eu parchu yn ogystal â gwarchod preifratrwydd y staff. Bydd hyn yn sicrhau na fydd cred nac agweddau personol yr athrawon yn dylanwadu ar y ffordd caiff ARhPh ei chyflwyno. 

 

Cynnwys y rhaglen ARhPh

 

Dengys y tabl isod pa themau allweddol a’r amcanion dysgu a gyflwynir yn ystod gwersi ARhPh:

Blwyddyn 3

Blwyddyn 4

Blwyddyn 5

Blwyddyn 6

 

Gwers 1 – Beth yw ffrind da?

 

Ymwybodol o’r gwahanol mathau o berthnasoedd rhwng ffrindiau.

 

Deall y sgiliau sydd angen er mwyn cael perthnasau effeithiol.

Gwers 1 – Gwahaniaethau teuluol

 

Archwilio gwhananol mathau o deuluoedd.

 

Gwybod pwy i fynd ato am help a chymorth.

 

Deall bod pob teulu yn wahanol.

Gwers 1 – Cyfeillgarwch

 

Deall bod nodweddion tebyg a gwahanol rhwng pobl yn cyfrannu at amrywiaeth o gyfeillgarwch a rhyngddibyniaeth rhwng cyfeillgarwch.

 

Gallu siarad am farn ac egluro eu barn ar gyfeillgarwch.

 

Gallu datrys gwahaniaethau drwy edrych ar ddewisiadau eraill.

Gwers 1 – Beth yw cariad?

 

Datblygu perthnasoedd a gwerthoedd cadarnhaol tuag at ffurfio amrywiaeth eang o berthnasoedd.

Gwers 2 – Cyfeillgarwch – datblygu empathi

 

Dysgu bod yn sensitif tuag at deimladau pobl eraill a theimlo’n dda amdanynt eu hunain.

 

Creu a chadw cyfeillgarwch.

Gwers 2 – Cylch bywyd pobl

 

Deall prif gamau cylch bywyd dynol.

 

Deall wrth i chi dyfu eich bod yn newid ac yn dod yn fwy cyfrinachol am wahanol bethau.

Gwers 2 – Newidiadau corfforol yn y glasoed

 

Deall y newidiadau corfforol i’r corff yn ystod y glasoed.

 

Deall pam bod y corff yn newid yn ystod y glasoed.

Gwers 2 – Y glasoed – pwysigrwydd hylendid corfforol a newidiadau emosiynol

 

Deall sut i fod yn lân yn ystod y glasoed.

 

Cydnabod sut mae emosiynau yn newid yn ystod glasoed.

 

Gwybod ble i fynd y gael help a chymorth yn ystod y glasoed.

Gwers 3 – Pethau tebyg ac anhebyg rhwng bechgyn a merched

 

Cyflwyno’r cysyniad o fechgyn a marched ac ystyrdebau am y rhywiau.

 

Nodi’r gwahaniaethau rhwng bechgyn a merched.

 

Bod yn ymwybodol gall bechgyn a merched fod yn debyg ac yn wahanol.

 

Gwers 3 – Gwahaniaethau corfforol rhwng bechgyn a merched

 

Disgrifio’r gwahaniaethau corfforol rhwng bechgyn a marched.

 

Enwi rhannau corff bechgyn a merched.

Gwers 3 – Y glasoed – grwpiau bechgyn/merched

 

Deall sut mae’r glasoed yn effeithio ar y corff ac ar emosiynau.

 

Deall sut y mae’r glasoed yn effeithio ar fechgyn a merched yn wahanol.

 

Codi ymwybyddiaeth o sut i reoli newidiadau corfforol ac emosiynol.

Gwers 3 – Atgenhedlu

 

Gwybod sut a pham bod y corff yn newid yn ystod y glasoed er mwyn paratoi ar gyfer atgenhedlu.

 

Deall sut caiff babi ei greu.

Gwers 4 – Cyffwrdd priodol ac amhriodol

 

Ystyried y mathau gwahanol o gyffwrdd y mae pobl yn eu hoffi a ddim yn eu hoffi.

 

Deall beth yw ystyr gofod personol.

 

Gwybod ffyrdd o ddelio â phobl yn cyffwrdd â chi heb eich bid chi eisiau hynny.

Gwers 4 – Tyfu i fyny a bod yn ddiogel

 

Deall bod gan bob plentyn yr hawl i deimlo’n ddiogel.

 

Dysgu strategaethau ar gyfer cadw’n ddiogel.

 

Dysgu strategaethau er mwyn cadw’n ddiogel.

 

Gwybod ble i fynd i gael cymorth a chyngor os yn teimlo’n anniogel.

 

Gwers 4 – Y glasoed – systemau atgenhedlu

 

Gofyn cwestiynau am y glasoed yn hyderus.

 

Deall geiriau manylach am y systemau atgenhedlu.  

Gwers 4 – Perthnasoedd, cenhedlu a beichogrwydd

 

Codi ymwybyddiaeth o wahanol fathau o berthnasoedd oedolion yn hyderus.

 

Gwybod sut y mae babanod yn datblygu, yn cael eu geni a’u bwydo.

 

 

Amddiffyn Plant

 

Mae’n ddyletswydd ar bob aelod o staff i amddiffyn ein dysgwyr. Os bydd athro/athrawes, gweithwr iechyd proffesiynol neu unrhyw ymarferydd arall yn yr ystafell dosbarth yn ystod gwersi ARhPh yn gweld neu’n clywed rhywbeth sydd yn  awgrymu bod dysgwr mewn perygl o gael ei niweidio’n ddifrifol neu o beri niwed difrifol i eraill, mae’n rhaid iddyn nhw rannu’r wybodaeth honno â’r aelod o staff dynodedig sydd yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn plant sef Mr Aled Williams.

Gweithio gyda rhieni

 

Mae gan rieni/gofalwyr ran bwysig i’w chwarae drwy gyfleu negeseuon cadarnhaol i’w plant ynghylch rhyw a pherthnasoedd. Cyn ddechrau ar y gwersi, byddwn yn hysbysu’r rhieni / gofalwyr am gynnwys y rhaglen ARhPh trwy eu gwahodd i siarad am y rhaglen ac ateb ymholiadau gyda chydlynydd ARhPh. Yn unol â gofynion Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae gan rieni / gofalwyr yr hawl i eithrio’u plant o addysg rhyw yn yr ysgol. Os felly, rhaid i’r rhieni wneud hynny yn ysgrifenedig.

 

Monitro ac adolygu

 

Bydd cydlynydd ARhPh  yn monitro effeitholrwydd y polisi yma yn flynyddol a byddant yn adrodd yn ôl y gofyn i lywodraethwyr yr ysgol. Bydd y llywodraethwyr yn ystyried o ddifrif unrhyw sylwadau oddi wrth rieni am y rhaglen addysg rhyw, ac yn cofnodi holl sylwadau o’r fath.