Home Page

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Polisi Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)Yr Ysgol a’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA)

 

Gwybodaeth Gefndirol am yr Ysgol

 

Ysgol cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Coed Y Gof.  Ar hyn o bryd mae 335 o blant rhwng 4 ac 11 oed ar y gofrestr. Mae 23% yn gymwys i gael cinio am ddim a 25% o’r disgyblion ar y gofrestr AAA.  Mae’r ysgol yn ardal Pentrebaen o ddinas Caerdydd, ond eto, daw rhan fwyaf o’r plant ar fws o Drelai a Chaerau.  Mae Trelai a Caerau yn ardaloedd ‘Cymunedau’n Gyntaf’.

 

Coed Y Gof yw’r unig Ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd sydd a Chanolfan Adnoddau Arbenigol ynddi ar gyfer addysgu plant sydd yn destun Datganiad AAA ag anghenion dwys.  Nid yw’n bosib i’r disgyblion yma dderbyn  eu haddysg llawn amser yn y brif ffrwd.  Gall y Ganolfan gymryd hyd at 10 o ddisgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws y ddinas.  Ar hyn o bryd mae 7 o blant yn aelodau llawn amser o’r Ganolfan.

 

Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru

 

Daeth y Cod Ymarfer hwn i rym ar Ebrill y cyntaf 2002 gan ddisodli Cod 1994.  (Bydd y dyletswydd i roi sylw i’r Cod hwn yn parhau tra pery’r Cod mewn grym – gweler Rhan IV o Ddeddf Addysg 1996.)

Mae’r Cod yn rhoi cyngor ymarferol i:

  • Awdurdodau Lleol
  • ysgolion a gynhelir
  • sefydliadau blynyddoedd cynnar
  • ac eraill

Yngln â chyflawni eu dyletswyddau statudol i:

  • ganfod anghenion addysgol arbennig plant
  • asesu anghenion addysgol arbennig plant
  • a gwneud darpariaeth ar eu cyfer.

 

Diffiniad o Anghenion Addysgol Arbennig:

 

Mae gan blant anghenion addysgol arbennig os oes ganddynt anhawster dysgu sy'n golygu ei bod yn ofynnol gwneud darpariaeth addysgol arbennig ar eu cyfer.

 

 

Mae gan blant anhawster dysgu:

(a)       os ydynt yn cael anhawster i ddysgu sy’n sylweddol fwy na’r anhawster a gaiff y rhan fwyaf o blant yr un oed; neu

 

(b)       os oes ganddynt anabledd sy’n eu hatal….rhag gwneud defnydd o gyfleusterau addysgol o fath a ddarperir yn gyffredinol i blant o'r un oed mewn ysgolion yn ardal yr awdurdod lleol………

 

Mae darpariaeth addysgol arbennig yn golygu:

 

(a)       i blant dwy oed neu drosodd, darpariaeth addysgol sy'n ychwanegol at y ddarpariaeth addysgol a wneir fel rheol ar gyfer plant o’u hoedran mewn ysgolion a gynhelir gan yr ALl yn yr ardal, ar wahân i ysgolion arbennig, neu’n wahanol mewn rhyw ffordd arall i’r ddarpariaeth honno……..

Gweler Adran 312, Deddf Addysg 1996

 

Oherwydd yr ystod o anghenion arbennig - o'r rhai lleiaf difrifol i'r mwyaf difrifol, mae angen ystod cymesurol o ddarpariaeth ar gyfer anghenion arbennig, gan amrywio o'r ychydig i lefel ddwys o gefnogaeth.  Mae hawl gan ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig fod yn aelodau cyflawn o gymdeithas yr ysgol gyda phob cyfle a phrofiad addysgol yn agored iddynt.  Lle bo'n briodol, a chan gymryd dymuniadau eu rhieni / gofalwyr i ystyriaeth, dylai mwyafrif y plant ag anghenion addysgol arbennig gael ei haddysgu ochr yn ochr â'u cyfoedion yn y brif ffrwd.  Yn yr un modd dylai disgyblion y Ganolfan gael pob cyfle posibl, lle bo’n briodol, i gael eu haddysgu yn y brif ffrwd ac i fod yn aelodau cyflawn o gymdeithas yr ysgol.

 

Mae’n ofynnol i ystyried y Cod Ymarfer Hawliau Anabledd ar gyfer Ysgolion ochr yn ochr â’r Cod Ymarfer AAA.

 

Er mwyn cyflawni nod ac amcanion yr ysgol, a sicrhau bod pob disgybl yn elwa'n llawn o’r profiad addysg yn Ysgol Coed y Gof, rhaid darparu'n llawn ar gyfer pob disgybl sydd ag anghenion addysgol arbennig.

 

Pwrpas y polisi hwn, ochr yn ochr â Llawlyfr Anghenion Addysgol Arbennig Coed y Gof a Llawlyfr Y Ganolfan Adnoddau Arbenigol, yw disgrifio’r trefniadau a gweithdrefnau a fydd yn sicrhau bod disgyblion â chanddynt anghenion addysgol arbennig yn derbyn cynhaliaeth briodol fel y gallant gyfranogi’n llawn o gwricwlwm cyflawn, eang a chytbwys a gwahaniaethol yr ysgol gan ddatblygu hyd eithaf eu gallu o fewn y cwricwlwm hwn. 

 

Mae darparu ar gyfer plant sydd ag AAA yn fater i’r ysgol gyfan.  Mae pob athro yn athro ar blant ag AAA.  Felly, mae dysgu plant fel hyn yn gyfrifoldeb i’r ysgol gyfan, a rhaid i’r ysgol gyfan ymateb.

 

Yn ganolog i waith pob dosbarth ceir cylch parhaus o gynllunio, addysgu, asesu a gwerthuso sy’n cymryd holl alluoedd, doniau a diddordebau’r disgyblion i ystyriaeth.  Bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dysgu ac yn gwneud cynnydd o fewn y trefniadau hyn.

 

Gweithredir y Polisi AAA mewn cytgord â pholisïau eraill yr ysgol, yn arbennig Polisi a Chynllun Cydraddoldeb, Polisi Addysgu a Dysgu, Polisi Ymddygiad,  Polisi Asesu ac Adrodd, Cynllun Hygyrchedd.

 

 

 Nodau'r polisi AAA

 

  • darparu cwricwlwm addas ar gyfer pob disgybl unigol a all fod ag anghenion addysgol arbennig ar hyd neu yn ystod ei yrfa Ysgol
  • sicrhau bod y disgybl yn derbyn profiad addysg mor eang a chytbwys ag sy'n bosibl, gan warchod ei hawl i'r mynediad llawnaf posibl i'r Cwricwlwm Cenedlaethol
  • darparu cynhaliaeth addas ar gyfer disgyblion sydd ag AAA
  • canfod, ymateb i, monitro a chloriannu'n rheolaidd anghenion addysgol arbennig y disgyblion
  • ymateb i'r ystod gofynion yn hylaw a hyblyg, gan baratoi cynlluniau gwaith sydd yn cydnabod pwysigrwydd gwahaniaethu sydd yn rhoi cyfle i'r holl ddisgyblion lwyddo a chael eu hymestyn
  • gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd y disgyblion
  • gwella hunan ddelwedd a hybu hyder y disgyblion drwy ddefnyddio systemau canmol yr ysgol
  • dyrannu a defnyddio adnoddau yn bwrpasol
  • addysgu disgyblion ag AAA ochr yn ochr a'u cyfoedion yn y brif ffrwd, lle bo hynny'n addas, a chan ystyried dymuniadau rhieni / gofalwyr a'r disgybl
  • sefydlu a meithrin partneriaeth a chydweithrediad sydd mor llawn a phosibl rhwng disgyblion, eu rhieni, yr ALl, asiantaethau allanol, ysgolion cynradd y dalgylch ac Ysgol gyfun Gymraeg Plasmawr – er mwyn cynnal pob disgybl i’r eithaf
  • canfod ac asesu anghenion y disgybl mor fuan ag sy'n bosibl, gan ddilyn a gweithredu ar unrhyw wybodaeth gychwynnol ac ymgynghori ymlaen llaw â'r cylch meithrin a fynychodd y disgybl,          er mwyn sicrhau dilyniant yn y ddarpariaeth
  • darparu rhaglen HMS ystyrlon a pharhaol ar gyfer Llywodraethwyr yr ysgol, y pennaeth a'r tîm arwain, athrawon, athrawon cynnal a chynorthwywyr dysgu i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth er mwyn darparu'r addysg orau bosibl i ddisgyblion ag AAA
  • sicrhau fod yna gyfle cyfartal i'r disgyblion sydd ag AAA yn unol a Pholisi Cyfle Cyfartal yr ysgol
  • sefydlu'r egwyddor fod gan bob aelod o staff gyfrifoldeb dros blant ag AAA
  • dangos parch tuag atynt fel unigolion a sicrhau amgylchedd gweithgar a sefydlog tu fewn a thu allan i'r dosbarth gan ddilyn prif nodau'r ysgol
  • hyrwyddo medrau cymdeithasol a helpu'r disgyblion i gyrraedd safon dderbyniol o ran ymddygiad
  • cynnwys y rhieni a gofalwyr mewn partneriaeth weithredol oddi fewn yr ysgol
  • cynnwys y disgybl wrth asesu a gwneud penderfyniadau

 

Nodau Ychwanegol y Ganolfan Adnoddau Arbennig:

 

  • sefydlu a meithrin partneriaeth a chydweithrediad sydd mor llawn a phosibl rhwng disgyblion, eu rhieni / gofalwyr, yr ALl, asiantaethau allanol, ysgolion cynradd yr Awdurdod sy’n gysylltiedig a’r Ganolfan a’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gyfun Glantaf

 

  • sefydlu perthynas â Chanolfannau Adnoddau Arbenigol ac ysgolion abennig eraill er  mwyn rhannu arfer dda

 

 

Enw Cydlynydd AAA yr Ysgol sy’n gyfrifol am weithredu’r Polisi AAA o ddydd i ddydd

 

Mrs Brenda Culff

Cymwysterau:

B Add

OCR Level 5 certificate in teaching pupils with specific Learning difficulties

 

Y Cydlynydd AAA sy'n gyfrifol:

 

Top of Form

goruchwylio gweithrediad y polisi hwn o ddydd i ddydd.
• cydlynu'r ddarpariaeth ar gyfer a rheoli'r ymatebion i blant
anghenion arbennig.
• monitro i sicrhau mabwysiadir ymagwedd gytûn, gyson.
• gweithio mewn partneriaeth ag athrawon dosbarth i nodi a chefnogi disgyblion
gydag AAA.
• cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd staff a chyflwyniadau i'r llywodraethwyr.
• cyfrannu at ddatblygu asesiadau ar y cyd a manwl a
arsylwadau disgyblion â phroblemau dysgu penodol.
• rheoli cofnodion pob plentyn ag anghenion addysgol arbennig.
• cefnogi athrawon dosbarth wrth ddyfeisio strategaethau, llunio Unigolyn
Cynlluniau Addysg (IPPs, CAU / IBP), gan osod targedau sy'n briodol i'r anghenion
o'r disgyblion, a chynghori ar adnoddau a deunyddiau priodol i'w defnyddio
gyda disgyblion ag AAA ac ar ddefnyddio deunyddiau a phersonél yn effeithiol
y dosbarth.
• cefnogi wrth hyfforddi athrawon dosbarth i ddatblygu'r defnydd o Ganolbwyntio  

  ar y Person Ymagweddau cynllunio a chyflwyno Cynlluniau Datblygu Unigol yn

  raddol (IDPau) yn unol â Chod Ymarfer AAA newydd Cymru a ddisgwylir ar

  gyfer Medi 2020.
• yn cysylltu'n agos â rhieni disgyblion ag AAA, fel eu bod yn ymwybodol ohonynt
y strategaethau sy'n cael eu defnyddio ac sy'n cael eu cynnwys fel partneriaid

  yn y broses.
• cysylltu ag asiantaethau allanol, trefnu cyfarfodydd, cwblhau
dogfennaeth a darparu cyswllt rhwng yr asiantaethau hyn, athrawon dosbarth
a rhieni
• cynnal cofrestr AAA a chofnodion yr ysgol.
• trosglwyddo cofnodion a chysylltu ag AAAau o drosglwyddo ysgolion
• cynorthwyo i fonitro a gwerthuso cynnydd disgyblion ag AAA
drwy ddefnyddio'r wybodaeth asesu ysgol bresennol, e.e. dosbarth-
asesiadau / cofnodion yn seiliedig, TA diwedd y flwyddyn a phrofion safonedig.
• rheoli staff cymorth dysgu / cynorthwywyr dysgu.
• cysylltu gyda'r SENCOs yn Ysgol Plasmawr ac Ysgol Glantaf a chlwstwr
ysgolion cynradd sy'n bwydo i sicrhau trefniadau pontio o safon uchel.
• trefnu cyfarfodydd adolygu gan gynnwys Adolygiadau Blynyddol.
• cefnogaeth a datblygiad proffesiynol:
- cynnal gwybodaeth a sgiliau eich hun ar lefel uchel er mwyn cynghori,
cefnogi a hysbysu arweinwyr cwricwlaidd, Athrawon dosbarth, Cymorth
Athrawon a TA.
- cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd y staff.
• Cysylltu â rhieni a gofalwyr AAA a'u hysbysu o'r cynnydd a wnaed
gan eu plentyn. Cysylltu â'r disgyblion ag AAA a sicrhau eu bod hefyd yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau
• sicrhau bod rhieni yn ymwybodol o wasanaethau partneriaeth rhiant lleol
• Cysylltu â'r disgyblion ag AAA a sicrhau eu bod hefyd yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau
ddatblygu strategaethau'r ysgol ar gyfer nodi, monitro ac adolygu plant ag AAA
• Cynnal map darpariaeth ar gyfer cynllunio a chydlynu AAA
• sicrhau cyswllt agos â'r ysgolion meithrin - er mwyn casglu gwybodaeth a sicrhau parhad y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag AAA.

am weithio'n agos â'r Athrawon i sicrhau fod anghenion plant ag AAA yn cael eu hystyried wrth baratoi ac addasu cynlluniau gwaith

 

Mae’r Cydlynydd ADY, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethu, yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o benderfynu ar ddatblygiad strategol y polisi a’r ddarpariaeth AAA yn yr ysgol er mwyn gwella cyflawniadau disgyblion sydd ag AAA

 

Mae’r Cydlynydd ADY yn cydweithio âg aelodau eraill o’r Tim Arwain sy’n cynnwys y Dirprwy ac Arweinwyr y Cyfnodau Allweddol i sicrhau bod yr un flaenoriaeth yn cael ei rhoi i addysg pob plentyn, a bod yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio yn y modd sy’n creu’r effaith fwyaf.

 

Mae’r Cydlynydd ADY yn cydwethio’n agos gyda Athrawes Arbenigol y Ganolfan Adnoddau Arbenigol i sicrhau yr un flaenoriaeth i’r disgyblion sy’n perthyn i’r Ganolfan.

 

Mae’r Cydlynydd ADY yn cydweithio’n agos gyda Athrawon Arbenigol y Sir.  Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd hefyd gydar Athrawes Arbenigol y Ganolfan, yr athrawon cynnal sy’n gweithio gyda disgyblion o’r brif ffrwd a’r Cynorthwywyr Dysgu AAA. 

 

Mae Cydlynwyr AAA ysgolion cynradd y dalgylch hefyd yn cwrdd am un prynhawn y tymor ym Mhlasmawr i rhannu arfer dda. 

 

Cynhaliaeth ychwanegol oddi wrth y Gwasanaeth Cyrhaeddiad:

 

Defnyddir y Gwasanaeth yma yn ôl y canllawiau a osodir gan yr Awdurdod. 

 

Amser i gydlynu ADY:

 

Mae angen amser i’r CADY gysylltu ag athrawon, athrawon cynnal, cynorthwywyr dysgu, rhieni / gofalwyr, disgyblion, aelodau o Wasanaethau Cyrhaeddiad sy’n cynnwys y Seicolegydd, Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol a chyrff gwirfoddol i gynllunio, cydlynu a monitro’r ddarpariaeth ar gyfer disgylbion ag AAA.  Caniateir, o Ebrill 2018 ymlaeni’r CADY fod yn ddigyswllt am tua 10 awr yr wythnos ar gyfer gwneud hyn.  Bydd cyfrifoldeb dosbarth gan y CADY am 3 diwrnod o’r wythnos. (Mae gan y CADY gyfrifoldebau eraill hefyd fel aelod o’r Tîm Arwain sy’n cynnwys person dynodedig disgyblion LAC ac un o’r dirprwyon yn gyfrifol am amddiffyn plant).

 

Y trefniadau ar gyfer cydgysylltu darpariaeth addysgol ar gyfer disgyblion ag AAA

 

Diffinio'r angen am gynhaliaeth ychwanegol yn Ysgol Gymraeg Coed y Gof:

 

       Mae gan blant anghenion addysgol arbennig os oes ganddynt anhawster dysgu, anhawster dysgu penodol, anhawster meddygol, anhawster corfforol neu nam are eu synhwyrau sy’n golygu ei fod yn ofynnol gwneud darpariaeth addysgol arbennig ar eu cyfer neu os oes ganddynt broblemau ymddygiadol neu emosiynol.

 

Noder:

 

Rhaid peidio ag ystyried bod gan blant anhawster dysgu dim ond oherwydd bod yr iaith neu ffurf yr iaith a ddefnyddir yn y cartref yn wahanol i’r iaith y cânt eu haddysgu ynddi.

 

Gall hyd y cyfnod a’r amser amrywio.  Dros dro yn unig y bydd angen cynhaliaeth ar rai disgyblion.

 

Daeth Rhan 2 o’r Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd i rym ym Medi 2002.  Mae’r fframwaith AAA yn gwneud darpariaeth addysgol arbennig i ddiwallu AAA disgyblion unigol a bydd fframwaith gwahaniaethu ar sail anabledd yn rhoi amddiffyniad i ddisgyblion anabl drwy atal gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail anabledd ym myd addysg.

 

Enw llywodraethwr (neu lywodraethwyr) sy'n gyfrifol am AAA:

 

Mr Cerith Williams

 

Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethu:

Mae gan gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, dyletswyddau statudol pwysig tuag at ddisgyblion ag AAA. 

 

Dylai’r Corff Llywodraethu, ynghyd â’r Pennaeth benderfynu ar bolisi ac ymdriniaeth gyffredinol yr ysgol o ran diwallu AAA y disgyblion hynny sy’n destun datganiad a’r rhai nad ydynt yn destun datganiad.

 

Rhaid iddynt sefydlu:

  • trefniadau staffio
  • cyllido priodol
  • a goruchwylio gwaith yr ysgol

Rhaid i'r Corff Llywodraethu felly:

  • wneud ei orau i sicrhau bod y ddarpariaeth angenrheidiol yn cael ei gwneud ar gyfer unrhyw ddisgybl sydd ag AAA
  • sicrhau bod pawb sy’n debygol o ddysgu disgyblion sydd ag AAA yn ymwybodol o’u hanghenion
  • sicrhau bod athrawon yn yr ysgol yn ymwybodol a bwysigrwydd canfod disgyblion sydd ag AAA a darparu ar eu cyfer
  • ymgynghori â’r ALl a chyrff llywodraethu ysgolion eraill er budd darpariaeth addysg arbennig yn yr ardal gyfan
  • sicrhau bod disgyblion sydd ag AAA yn ymuno yng ngweithgareddau'r ysgol gyda’u cyfoedion
  • adrodd yn flynyddol i rieni ar weithrediad polisi’r ysgol ar gyfer disgyblion ag AAA
  • dalu sylw sylw i’r Cod Ymarfer wrth gyflawni ei ddyletswyddau tuag at bob disgybl sydd ag AAA
  • sicrhau yr hysbysir rhieni os bydd yr ysgol yn penderfynu gwneud darpariaeth AAA ar gyfer eu plentyn

 

Gweithredu dyletswyddau'r Corff Llywodraethu:

 

Y Corff Llywodraethu i benodi un person i fod yn gyfrifol dros fonitro darpariaeth AAA yr ysgol.

 

Bydd y Llywodraethwr AAA yn cydweithio â’r Pennaeth a'r Tîm Arwain i weithredu'r polisi.  Bydd y Cydlynydd AAA yn trefnu cyfarfod ffurfiol un neu ddwy waith y flwyddyn (yn ôl y galw) gyda'r Llywodraethwr sy'n gyfrifol am AAA.

 

Y Corff Llywodraethu i fod ynghlwm â’r broses o lunio ac adrodd yn ôl ar y

polisi ac i gymeradwyo unrhyw newidiadau.

 

Cyfrifoldeb y Pennaeth:

       Y Pennaeth sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth ar gyfer plant sydd ag AAA.  Dylai roi gwybodaeth lawn i’r Corff Llywodraethu a chydweithio’n agos â Chydlynydd AAA yr ysgol.

 

 

Cyfrifoldeb yr Athrawon Dosbarth:

  • i gynllunio, addysgu, asesu a gwerthuso holl weithgareddau’r dosbarth gan gymryd holl alluoedd, doniau a diddordebau’r disgyblion i ystyriaeth
  • o dan arweiniad y CAAA i lunio, gweithredu a gwerthuso proffiliau / cynlluniau addysg unigol ar gyfer disgyblion sydd ag AAA yn eu dosbarthiadau
  • bod â rhan yn y gwaith o ddatblygu polisi AAA yr ysgol a'i weithredu
  • bod yn hollol ymwybodol o drefniadau’r ysgol ar gyfer canfod ac asesu disgyblion sydd ag AAA a darparu ar eu cyfer
  • gwneud defnydd o’r daflen gyfeirio er mwyn hysbysu’r CAAA o anghenion unigolion sy’n eu gofal
  • bod yn barod i dderbyn HMS a mynychu cyrsiau a ddarperir gan yr ysgol, yr awdurdod neu asiantaeth arall

 

Y Cynorthwywyr Dosbarth:

Nod Coed y Gof yw i addysgu disgyblion ag AAA ochr yn ochr a'u cyfoedion yn y brif ffrwd, lle bo hynny'n addas.  O ganlyniad mae rôl y Cynorthwywyr yn holl bwysig.  Cynigir cynhaliaeth yn y dosbarthiadau trwy dargedu disgyblion sydd ag AAA.  Nod y Ganolfan hefyd i’w i gyfannu’r plant lle bo hynny’n addas gyda’u cyfoedion yn y brif ffrwd.

 

Ar adegau mae disgyblion yn cael eu tynnu allan o ddosbarthiadau, dros dro yn unig, er mwyn canolbwyntio ar rai agweddau o'r gwaith mae'r disgyblion yn cael anhawster i'w deall, i wella sgiliau llythrennedd, i drafod cynnydd ac i helpu disgyblion i fagu hyder naill ai yn gyffredinol neu mewn maes penodol.  Ceisir sicrhau ym mhob achos fod yna ddilyniant rhwng cwricwlwm y dosbarth a'r gweithgareddau cynnal pan dynnir plant allan o'r dosbarth.

 

Gweithwyr allweddol sy'n gyfrifol am;
• esbonio i'r plentyn unrhyw rybudd neu ddogfen y mae'n ofynnol i awdurdod lleol 

  ei roi neu ei gyflwyno mewn perthynas ag AAA plentyn.
• Cysylltu â gwaith achos yr ALl ar ran y plentyn
• I gysylltu â SNAP ar ran y plentyn
• I gadw cofnodion priodol yn ymwneud â'r uchod

 

 

Rhieni / Gofalwyr / Gwirfoddolwyr:

Croesawir rhieni / darpar rhieni / gofalwyr a gwirfoddolwyr o’r Gymuned i'n plith 2 gwaith yr wythnos i gynnig cymorth gyda'n cynlluniau i wella sgiliau llythrennedd ein disgyblion. 

 

 

 Y Trefniadau Derbyn ar gyfer Disgyblion ag AAA:

 

Yn ystod y broses o lunio Datganiad mae gan rhieni yr hawl i ddweud pa un o ysgolion yr ALl yr hoffent i’w plentyn fynychu, un ai ysgol prif ffrwd , Canolfan Adnoddau Arbenigol neu ysgol arbennig.  Mae’n rhaid i’r ALl gytuno â’u dewis, cyn belled ag y bydd:

  • yr ysgol yn addas ar gyfer oedran, galluoedd, sgiliau ac AAA y plentyn
  • y bydd lleoli’r plentyn yn yr ysgol honno’n gwneud defnydd effeithlon o adnoddau’r ALl. 

 

Os yw'r rhieni yn anghytuno â'r lleoliad neu unrhyw ran o’r broses o lunio’r Datganiad mae’n bosib iddynt gysylltu â’r Swyddog Enwebedig o fewn yr ALl am eglurhad, cysylltu â’r Gwasanaeth Datrys Anghytundeb, y Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni lleol ac apelio o bosib i’r Tribiwnlys AAA.  Pan fo'r rhieni a'r AALl yn gytûn, fel arfer eir ati i wneud y trefniadau derbyn rhwng y rhieni a'r ysgol sy'n derbyn y plentyn.  Yn y cyfarfod hwnnw, trafodir y manylion ymarferol yngln â derbyn y plentyn i'r ysgol honno.

 

Mae yna drefniadau penodol hefyd pan fo disgyblion prif ffrwd sydd ag AAA yn trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i Blasmawr gyda’r nod o hwyluso’r broses:

 

Y CADY ac aelod o’r Tim Cyfnod Allweddol 3 yn ymweld â’r ysgol dwy waith i drafod unrhyw anawsterau sydd gan ddisgyblion blwyddyn 6 cyn iddynt adael:

      

Y CADY yn trafod anghenion disgyblion sydd ag AAA (Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy) gyda'u rhieni naill ai ar y ffôn neu mewn cyfarfodydd ffurfiol.

 

Y CADY ac aelod o’r Tim Cyfnod Allweddol 3 yn mynychu cyfarfodydd adolygiad blynyddol disgyblion sydd â Datganiadau ym mlwyddyn 5 a 6.

 

Y CADY yn ystyried a yw'r ddarpariaeth sy'n gallu cael ei gynnig ar gyfer disgyblion sydd ag AAA ym Mhlasmawr yn addas ar gyfer pob unigolyn - gall hyn olygu trafodaethau helaeth gyda staff Plasmawr, staff yr ysgol gynradd, rhieni ac asiantaethau allanol.

 

Trosglwyddir gwybodaeth angenrheidiol / ffeiliau unigol am bob un disgybl ond gofynnir i athro Blwyddyn 6 neu CAAA yr ysgol gynradd lenwi taflen arall ar gyfer disgyblion sydd ag AAA a fydd o gymorth i'r CAAA wrth baratoi proffil unigol ohonynt ar gyfer Llawlyfr AAA yr Athro ym Mhlasmawr.  Yn naturiol disgwylir i'r ysgol Gynradd drosglwyddo'r CAUau hefyd er mwyn sicrhau dilyniant yn y ddarpariaeth. 

 

Cynhelir cyfarfodydd un prynhawn y tymor ym Mhlasmawr ar gyfer Cydlynwyr AAA yr ysgolion cynradd i drafod ac i weithio ar y cyd i wella’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag AAA ac i hwyluso’r pontio cynradd / uwchradd o safbwynt AAA.  (Gweler y cofnodion yn y Llawlyfr)

 

(Gweler y trefniadau derbyn a’r drefn trosglwyddo ar gyfer plant y Ganolfan isod)

 

 

 

 

 

 

 Y Ganolfan Adnoddau Arbengiol

 

Lleolir yr unig Ganolfan Adnoddau Arbenigol cyfrwng Cymraeg Cynradd yn yr ysgol a disgwylir i’r disgyblion drosglwyddo i’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol cyfrwng Cymraeg Uwchradd yn Ysgol Gyfun Glantaf. Ar rai achosion mi fydd y disgybl yn trosglwyddo i Plasmawr.

 

Ariennir staff y Ganolfan gan yr Awdurdod Lleol – gweler gopi o’r daflen las ariannu yn Llawlyfr y Ganolfan.  Gweler hefyd gopi o’r ‘Operational Agreement’ sy’n cael ei lunio gan yr Awdurdod a’i gytuno gyda’r ysgol.

 

Enw’r Athrawes Arbenigol sy’n arwain y Ganolfan:

 

Mrs Sian James

 

Cymwysterau

BA Seicoleg 2001

Diploma ol raddedig mewn Awtistiaeth

TAR 2004

MA (AAA)

 

Yr Athrawes Arbengiol sy’n gyfrifol am:

 

  • rheoli staff cynorthwyol y Ganolfan
  • sicrhau, mewn cydweithrediad a’r Cydlynydd AAA, bod datganiadau disgyblion yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac effeithlon
  • sicrhau bod asiantaethau perthnasol yn ymweld ac yn rhoi mewnbwn addas yn ol y galw
  • drefnu profiadau perthnasol allgyrsiol i ddisgyblion y Ganolfan
  • greu partneriaethau buddiol ag asiantaethau a chanolfannau addysgol eraill
  • gyfathrebu a rhieni disgyblion y Ganolfan yn ddyddiol, os yn briodol, trwy ddefnyddio’r llyfr cyswllt
  • gadw cofnod o adnoddau’r Ganolfan
  • greu cyfleodd i wahodd y rhieni mewn yn achlysurol i’r Ganolfan i weld gwaith y plant ac i gymdeithasu a’i gilydd
  • gydweithio gyda staff y brif ffrwd er mwyn sicrhau bod disgyblion y Ganolfan yn cael eu cyfannu’n effeithiol a llwyddiannus gyda’i cyfoedion, mewn gwersi, amser chwarae, gwasanaethau a gweithgareddau allgyrsiol
  • gydlynu’r sesiynau a gynigir yn dymhorol gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysg
  • drefnu / mynychu cyfarfodydd gan gynnwys adolygiadau blynyddol a chynhadleddau achos
  • gadw i fyny gyda datblygiadau mewn agweddau o anghenion dwys a throsglwyddo gwybodaeth sy’n briodol i’r staff gyfan

 

 

 

Y Trefniadau Derbyn ar gyfer Disgyblion y Ganolfan

  • Mae mynediad i’r Ganolfan yn ddibynnol ar feini prawf Gwasanaeth Cyflawniad yr Awdurdod Lleol.  Gall y Ganolfan gymryd hyd at 10 o ddisgyblion o ysgolion cyfrwng cynradd Cymraeg yr Awdurdod.

 

Y Trefniadadau Trosglwyddo o’r Ganolfan i’r Uwchradd.

  • cydweithio’n agos gyda Ysgol Gyfun Glantaf ( Ysgol Plasmawr)I sicrhau fod yna gynllun trosglwyddo effeithiol yn ei le
  • staff yr ysgol uwchradd yn cael y cyfle i ymweld a’r disgyblion yng Nghoed y Gof
  • trefnir sawl ymweliad i Ysgol Glantaf ( Ysgol Plasmawr) ar gyfer y disgyblion
  • bydd y disgyblion o’r Ganolfan hefyd yn mynychu’r dyddiau trosglwyddo yn yr ysgol Uwchradd gyda disgyblion Blwyddyn 6 o’r ysgolion sy’n bwydo Glantaf/Plasmawr
  • gosodir targedau penodol ar gyfer pob ymweliad
  • cydweithir yn agos iawn gyda rhieni / gofalwyr y disgyblion yn ystod y broses  

 

Gweler Nodau’r Polisi AAA - gyda’r Atodiad ar gyfer y Ganolfan

 

Cynorthwywyr Dosbarth sy’n gweithio yn y Ganolfan

 

Enw

 

Mr Alun Evans ( 3 dydd CD a 2 ddydd athro)    

Mrs Rhian Salisbury

Miss Katie Sheehan

Miss angharad Thomas

Mrs Catrin Kemp

 

Dyrannu Adnoddau i Ddisgyblion ag AAA

 

Gweler gwybodaeth fanwl ar y modd y dyrennir cyllid AAA yn y Llawlyfr AAA a Llawlyfr y Ganolfan.  Bydd y manylion yn newid o flwyddyn i flwyddyn.

 

i) Adnoddau dynol:

       Cydlynydd AAA

       Athrawes Arbenigol ar gyfer y Ganolfan

      Athrawon Cefnogi

       Cynorthwywyr Dosbarth

       Gwirfoddolwyr

       Aelodau o’r Gwasanaeth Cyrhaeddiad gan gynnwys 

       Athrawon Arbenigol a Seicolegwyr Addysg

 

ii) Adnoddau ar ffurf deunyddiau:

       Offer, er enghraifft, 

Deunyddiau arbenigol, er enghraifft cynllun Rhydychen i wella sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Rainbow Readers

Rapid Readers

Sioni’n Siarad

Rhaglen STARS Cymraeg

Rhaglen SAIL Cymraeg

       Llyfrgell o lyfrau Cymraeg a Saesneg addas

       Deunyddiau asesu - Profion Glannau Menai / Profion NFER / Young’s   

      Parallel / Prawf Abertawe / Prawf Geirfa Bangor ac yn y blaen.

 

 

 

Trefniadau Canfod ac Asesu a Gweithdrefnau Adolygu

 

Mae'r systemau cofnodi sydd eisoes ar gael yn cynnig modd i ddangos y camau bach o gynnydd a wneir gan blentyn ag AAA.  Os yw athro dosbarth yn poeni am gynnydd disgybl mae yn cyfeirio'r disgybl i'r CAAA.  Gofynnir i'r athro / athrawes dosbarth gadw cofnod manwl o gynnydd y disgybl.  Nodir AAA y disgybl ar sail ei gynnydd annigonol.

 

Gall adnoddau asesu gynnwys:

 

• Sgoriau Safonol Darllen a Rhifedd Llywodraeth Cymru

• Sgôr Safonol prawf Di-eiriol

• Prawf Darllen a deall YARK

• Prawf Darllen a deall Glannau Menai

• Prawf Sillafu Word Unigol: Young's Parallel / Glannau Menai

• MALT (Asesiad Mathemateg ar gyfer Dysgu ac Addysgu)

• Nodiadau Maes ac asesiadau crynodol a wnaed gan athrawon dosbarth

• Asesiadau Sylfaenol Derbyn, sy'n briodol i bob lleoliad unigol

• Lefelau asesu athrawon y Cyfnod Sylfaen

• Lefelau asesu athrawon CA2

• Data asesu athrawon a gofnodwyd drwy INCERTS

 

Pwy sy'n gyfrifol am ganfod ac asesu?

  • athrawon dosbarth yn y man cychwyn
  • athro neu athrawes gynnal neu'r CAAA neu’r athrawes arbenigol
  • gwasanaethau cefnogi allanol gan gynnwys seicolegydd addysg pan yw'n briodol (Gwasanaeth Cyrhaeddiad)

 

Dylai'r asesiad fod yn adlewyrchiad o'r plentyn cyfan, gan dynnu sylw at gryfderau yn ogystal ag anghenion, a dylai fod yn fan cychwyn ar gyfer datblygu cynllun addysg unigol i blentyn.

 

Rhaid cydnabod bod AAA plant ar gontinuwm ac y gallant, hefyd, newid dros amser.  Bydd yna ymateb graddedig gan yr ysgol sy’n cydnabod bod disgyblion yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd a’i bod yn bosibl bod ganddynt wahanol fathau neu lefelau o AAA.

 

Pan yn hysbys fod gan ddisgybl AAA mae’r Pennaeth, y Cydlynydd AAA a chydweithwyr yn ceisio:

 

  • sicrhau bod arddulliau dysgu’r plentyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth
  • defnyddio’r wybodaeth oddi wrth yr Ysgol feithrin yn fan cychwyn ar gyfer datblygu cwricwlwm priodol ar gyfer y disgybl
  • canfod sgiliau’r plentyn a chanolbwyntio sylw arnynt ac amlygu meysydd lle mae angen gweithredu’n fuan i gefnogi’r plentyn yn y dosbarth
  • sicrhau bod arsylwi ac asesu parhaus yn rhoi adborth rheolaidd i’r holl athrawon a’r rhieni am gyflawniadau a phrofiadau’r disgybl a bod canlyniadau’r asesu hwnnw yn sylfaen ar gyfer cynllunio’r camau nesaf yn addysg y disgybl
  • sicrhau y gwneir y mwyaf o gyfleoedd anffurfiol priodol i’r disgybl ddangos yr hyn y mae’n ei wybod, ei ddeall ac yn gallu ei wneud
  • cynnwys y disgybl yn y gwaith o gynllunio a chytuno ar dargedau i ddiwallu ei (h)anghenion
  • cynnwys rhieni yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu ffordd o ddysgu ar y cyd rhwng y cartref a’r Ysgol, os yn briodol

 

Gwneir ymdrech i sicrhau fod rheolaeth effeithiol, ethos ac amgylchedd dysgu’r ysgol, a’r trefniadau cwricwlaidd, bugeiliol a disgyblu yn helpu i atal rhai AAA rhag codi, a gwneud eraill yn llai.

 

Anogir yr athrawon i wahaniaethu’r gweithgareddau dysgu y tu mewn i fframwaith y cwricwlwm cynradd er mwyn helpu i ddiwallu anghenion dysgu’r disgyblion i gyd.

 

Ni ddylent gymryd yn ganiataol bod anawsterau dysgu disgyblion bob amser yn deillio’n llwyr, neu hyd yn oed yn bennaf, o broblemau’r plentyn ei hunan.

 

Gall cyfraddau cynnydd disgyblion ddibynnu weithiau ar yr hyn a ddysgir iddynt, neu’r ffordd y cânt eu dysgu.  Defnyddir y system fonitro mewnol i gadw golwg ar y sefyllfa.

 

Mae arferion yr ysgol ei hun yn gwneud gwahaniaeth – er da neu er drwg – rhaid cadw hyn mewn golwg.

 

Gellir rhoi sylw i wahaniaethu trwy ystyried natur ac amrywiaeth y gweithgareddau a’r gofynion deallusol sy’n cael eu rhoi ar y disgybl unigol.

 

Anogir yr athrawon i gynllunio mewn ffordd hyblyg er mwyn cydnabod anghenion y disgyblion i gyd fel unigolion a sicrhau dilyniant, perthnasedd a gwahaniaethu.

 

 

 

 

 

 

Anghenion a Gofynion Plant (Cod Ymarfer AAA Cymru):

 

Gall anghenion a gofynion plant ddisgyn i o leiaf un o bedwar maes a bydd gan lawer o blant anghenion cydgysylltiedig.  Dylid talu sylw i effaith y cyfuniadau hyn ar allu’r plentyn i weithredu, dysgu a llwyddo.

 

Ceir anghenion yn y meysydd canlynol:

 

  • Cyfathrebu a Rhyngweithio      
  • Gwybyddiaeth a Dysgu
  • Datblygiad Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol
  • Anghenion Synhwyraidd a/neu Gorfforol

Mae angen ystyried Cyflyrau Meddygol hefyd os ydynt yn amharu ar fynediad y disgybl i’r cwricwlwm

 

 

Canfod, Asesu a Darparu:

 

  • cesglir dystiolaeth o arsylwadau ac asesiadau athrawon
  • edrychir ar eu perfformiad yn erbyn y disgrifiadau o lefelau y Cwricwlwm Cenedlaethol
  • defnyddir dulliau sgrinio ac asesu safonol
  • bydd yr ysgol yn agored a pharod eu hymateb pan fo rhieni yn mynegi pryder
  • bydd yr ysgol yn ymateb i bryder y disgybl ei hun
  • bydd yr ysgol yn ymateb i bryderon gan weithwyr proffesiynol eraill
  • os nad yw cynnydd yn cael ei wneud gan y disgybl er ei fod wedi cael cyfleodd dysgu gwahaniaethol yna bydd angen y camau sy’n dilyn:

 

 

GweithreduYsgol:
Gellid symud plentyn i Weithrediad Ysgol o ganlyniad i:

  • perfformiad yn cael ei fonitro gan yr athro fel rhan o arsylwi ac asesu parhaus
  • canlyniad o ganlyniadau asesu sylfaenol
  • diffyg cynnydd mewn llythrennedd neu rifedd
  • offer sgrinio neu asesu safonol
  • Anhawsterau Ymddygiadol, Cymdeithasol neu Emosiynol ac ati.

 

Bydd y CADY, mewn ymgynghoriad a’r athro dosbarth:

  • Adolygu’r holl wybodaeth perfformiad/asesu.
  • Ceisio cyngor pellach os oes angen
  • Llunio a gweithredu CAU/CYU gyda’r athro dosbarth. CD a rhieni, gan rhoi ystyriaeth i farn y plentyn.
  • Monitro cynnydd
  • Rhoi cyngor i rieni ynghylch cefnogaeth gartref.
  • Cysylltu ag asiantaethau allanol fel sy’n briodol.

 

 


Mae'r CAU / CYU yn nodi natur anawsterau'r plentyn, yn ychwanegol at ddarpariaeth, adnoddau, amledd a math o gefnogaeth, natur cefnogaeth y rhieni, targedau i'w cyflawni, meini prawf llwyddiant a dyddiad adolygu. Gall cefnogaeth fod yn ôl yn unigol neu yn ôl grŵp, neu gefnogaeth yn y dosbarth, neu fonitro (yn enwedig mewn achosion o AYEC. Mae'r CAU / CYU yn nodi natur anawsterau'r plentyn, yn ychwanegol at ddarpariaeth, adnoddau, amledd a math o gefnogaeth, natur cynnwys y rhieni, targedau i'w cyflawni, meini prawf llwyddiant a dyddiad adolygu. Gall cefnogaeth fod yn ôl yn unigol neu yn ôl grŵp, neu gefnogaeth yn y dosbarth, neu fonitro (yn enwedig mewn achosion AYEC).

 

Gweithredu Ysgol  a Mwy:

Ar y lefel hon o angen, bydd yr athro dosbarth a'r CADY yn sicrhau bod cyrhaeddiad y plentyn ar lefel Gweithredu'r Ysgol yn cael ei fonitro a'i adolygu. Os yw'r plentyn yn parhau i wneud ychydig neu ddim cynnydd, mae ganddo anawsterau wrth gaffael medrau a chysyniadau allweddol, mae ganddo anawsterau emosiynol neu ymddygiadol sy'n ymyrryd yn rheolaidd â dysgu'r plentyn ei hun neu gymheiriaid, yn meddu ar synhwyrau anghenion corfforol sy'n gofyn am fewnbwn arbenigol ac adnoddau neu sydd wedi parhau cyfathrebu neu ryngweithio, sy'n rhwystro datblygiad perthnasoedd cymdeithasol ac yn achosi rhwystrau sylweddol i ddysgu.
Gall yr CADY, ar ôl ymgynghori ag athro dosbarth a rhieni, gael gafael ar gefnogaeth arbenigol allanol trwy PARM (Cyfarfod Cyfeirio Ardal Bartneriaeth) i asesu anghenion y plentyn a darparu cefnogaeth a chyngor priodol. Bydd athrawon dosbarth (gyda chymorth gan CADY) yn cwblhau atgyfeiriad PARM.
Mae'r ALNCo yn darparu, gyda chaniatâd rhieni, arbenigwyr allanol gyda'r holl wybodaeth berthnasol ar y plentyn. Rhennir cyngor gan wasanaethau cymorth gyda rhieni a gellir ei ddefnyddio i lunio CAU/CUY newydd. Gall cefnogaeth unwaith eto fod yn gymorth unigol neu grŵp, wedi'i dynnu'n ôl neu gefnogaeth yn y dosbarth.

 

Trefnir adolygiadau dair gwaith y flwyddyn i fonitro targedau. Gwahoddir rhieni ac asiantaethau allanol, fel y bo'n briodol, i gymryd rhan yn yr adolygiad, ar hyd
gyda'r CADY ac athrawon dosbarth ac CD. Gallai gweithredu o ganlyniad i adolygiad gynnwys CAU / IPP / IBP arall yn Action School Plus; gwrthdroad i Weithredu'r Ysgol gyda CAU / CUY priodol neu ystyried yr angen am asesiad statudol.

 

Gall hyn arwain at ddisgybl i fod yn:

 

Destun Datganiad AAA:

 

(Gweler Pennod 6 yn y Cod Ymarfer am fanylion pellach a Llawlyfr y Gwasanaeth Cyrhaeddiad ar gyfer Criteria Awdurdod Caerdydd)

 

 

 

Trefniadau ar gyfer Darparu Mynediad i Ddisgyblion ag AAA i’r Cwricwlwm

 

Mae holl ddisgyblion Coed y Gof yn derbyn mynediad i'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac er mwyn galluogi hyn mae yna athrawon cynnal / cynorthwywyr dosbarth ar gael ar gyfer y disgyblion sy'n cael anhawster mewn rhai pynciau.

 

Disgwylir i gynlluniau gwaith yr athrawon ddangos yn glir sut maent yn darparu ar gyfer plant ag AAA.

 

Mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael ei wahaniaethu i ateb gofynion pob unigolyn.  Gofynnir i'r athrawon osod targedau tymor byr sy'n gyraeddadwy, a gyda chefnogaeth maent yn llwyddo i baratoi a chyflwyno cwricwlwm priodol.

 

 

 

Integreiddio Disgyblion ag AAA o fewn yr Ysgol Gyfan

 

Integreiddio Lleoliadol:

Addysgir disgyblion ag AAA yn bennaf ochr yn ochr a’u cyfoedion yn y brif ffrwd gan gynnwys disgyblion y Ganolfan o dro i dro pan yn briodol.

 

Integreiddio Cymdeithasol:

Mae holl ddisgyblion Coed y Gof yn cael cyfleoedd addas ar gyfer sicrhau eu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol.  Bydd cyfleoedd iddynt integreiddio yn ystod ymweliadau a thripiau ysgol, cyrsiau preswyl, Eisteddfod a mabolgampau'r ysgol a holl weithgareddau allgyrsiol yn ystod y dydd a thu allan i oriau’r ysgol. 

 

Integreiddio Swyddogaethol:

Mynediad i'r un cwricwlwm â phlant y brif ffrwd.  Integreiddir y disgyblion gyda chefnogaeth, os yn briodol.  Gweler Llawlyfr y Ganolfan am wybodaeth pellach am sut mae’r disgyblion yma yn cael mynediad i’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

 

 

Meini Prawf ar gyfer Gwerthuso Llwyddiant Polisi AAA yr Ysgol

 

Rhaid i adroddiad blynyddol y corff llywodraethu gynnwys gwybodaeth:

       am lwyddiant y polisi AAA

       am newidiadau sylweddol yn y polisi

       am unrhyw ymgynghori â'r ALl, yr Awdurdod Cyllido ac ysgolion eraill

       am sut y dyrannwyd adnoddau ar gyfer ac ymhlith plant ag AAA dros y            flwyddyn.

 

Wrth gyflwyno sylwadau am lwyddiant y polisi, bydd yr adroddiad yn dangos effeithiolrwydd systemau'r ysgol ar gyfer:

       canfod anghenion

       asesu

       darparu

       arolygu a chadw cofnodion

       y defnydd o wasanaethau cynnal ac asiantaethau allanol.

 

 

 

 

Monitro'r safonau a gyrhaeddir trwy:

 

restru ar ddechrau pob tymor y nifer o ddisgyblion sydd ag AAA, gan gynnwys y rhai sydd yn y Ganolfan, gan edrych ar y  lefel a'r math o gefnogaeth a roddwyd iddynt i weld a wnaethpwyd cynnydd ac i weithredu yn ôl yr angen, gan newid unrhyw weithdrefn anghymwys

 

archwilio gwaith disgyblion dros Gyfnod Allweddol, er enghraifft, o Flwyddyn 4 - 6 gan sicrhau bod y safonau'n berthnasol i'r targedau cyrhaeddiad ar gyfer pynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, lle bo hyn yn gymwys.  Dylid hefyd edrych a yw'r lefelau cyrhaeddiad presennol yn berthnasol i'r lefelau cyrhaeddiad a gofnodwyd ar adegau blaenorol, ac a ydynt yn dangos cynnydd.  Hefyd, a yw canlyniadau’r disgyblion yn dangos cynnydd yn eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau? 

 

adolygu pob Cynllun Addysgol Unigol a Datganiad ac addasu'r rhaglen lle bo angen gan edrych ar enghreifftiau o waith y disgybl. 

 

asesu agwedd y disgybl tuag at waith a’i ddatblygiad personol, ac a yw ef neu hi yn teimlo'n bositif ac yn ddiogel yn yr ysgol 

 

gofyn am farn rhieni - ar lafar yn ystod nosweithiau rhieni ac adolygiadau

 

arsylwi gwersi er mwyn ffurfio barn am y canlynol:

            *           disgwyliadau athrawon tuag at ddisgyblion ag AAA

            *           a yw'r gwaith a'r technegau dysgu yn addas ac yn wahaniaethol

            *           a yw'r disgyblion yn deall diben y dysgu

            *           a ydynt yn arddangos cynnydd llafar, ysgrifenedig ac ymarferol

                       

 

edrych ar y ddarpariaeth staffio, ystafelloedd ac adnoddau yn flynyddol yn ôl anghenion, gan edrych ar sut y defnyddir unrhyw staff cynnal

 

penderfynu ar HMS priodol ar gyfer y flwyddyn olynol

 

Trefniadau ar gyfer ystyried Cwynion / Pryderon am y Ddarpariaeth AAA

Gweithdref gwyno


Os yw rhiant yn pryderu am y penderfyniadau a wneir am ei blentyn / ei phlentyn, neu'r math o gymorth sy'n cael ei dderbyn yna gall y rhiant fynegi'r pryderon hynny yn y lle cyntaf i athro'r plentyn. Gellir mynegi pryderon pellach i'r Cydlynydd Anghenion Arbennig neu'r Pennaeth. Gellir cymryd pryderon mwy difrifol i'r Llywodraethwr sy'n gyfrifol am Anghenion Addysgol Arbennig.
Mewn rhai achosion, yn enwedig y rhai lle mae'r ALl yn gwneud penderfyniadau, mae asiantaethau eraill a fydd yn gweithredu ar ran y rhieni.
SNAPCymru,
45 Heol Penarth,

Caerdydd CF1 5DJ,

Ffôn: 01222 384868


Mae Snap Cymru yn elusen gofrestredig sy'n cynnig cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim i deuluoedd plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig, neu a allai fod ganddynt.
Mae hefyd yn gweithredu "Cynllun Person Enwebedig" a bydd yn cefnogi rhieni wrth fynegi eu barn i'r AALl, neu mewn tribiwnlysoedd apêl

 

Disgyblion:

 

Mae croeso i ddisgyblion fynegi eu teimladau yn gwrtais, yn onest ac yn agored os oes ganddynt gwyn neu bryderon.  Gallant ddweud wrth eu athro dosbarth, wrth gydlynydd AAA, aelod o’r Tim Arwain neu unhyw aelod o staff y maent yn teimlo'n gyfforddus yn ei gwmni.

Bydd y cyfan yn cael ei gofnodi: y pryder, y camau gweithredu a’r canlyniad.

 

 Trefniadau Hyfforddiant Mewn Swydd AAA yr Ysgol / Datblygiad Proffesiynol Staff 

 

Cynllunnir rhaglen o hyfforddiant ar gyfer datblygiad proffesiynol staff er mwyn eu cynorthwyo i weithio'n effeithiol gyda phlant ag AAA. 

 

Cynigir hyfforddiant addas gan y Sir ar gyfer y CADY

      

Bydd y CADY yn cydweithio gyda Chydlynydd Partneriaeth o’r ALl ac yn mynychu'r cyfarfodydd ar gyfer Cydlynwyr AAA Ysgolion Cynradd yr Awdurdod yn dymhorol.

 

Bydd angen annog pob aelod o staff i ymestyn eu harbenigedd i gynnwys plant ag AAA a'u caniatáu i fynychu cyrsiau addas a drefnir gan yr Awdurdod.

 

Trefnir hyfforddiant ar gyfer y Llywodraethwyr gan yr Awdurdod a’r CAAA.

 

Trefnir hyfforddiant ar gyfer y Cynorthwywyr Dysgu gan yr Awdurdod a’r CADY

 

Trefnir hyfforddiant unwaith y tymor ar gyfer CAAA yr ysgolion cynradd ym Mhlasmawr.

 

 

 Defnydd o’r Gwasanaeth  - Cyrhaeddiad / Iechyd a Chymdeithasol.

 

Defnyddir athrawon arbenigol ar gyfer:

       gweithio gyda phlant unigol

       cynghori athrawon ar strategaethau i'w defnyddio gyda phlant sydd wedi'u      targedu

       cydweithio gyda'r CAAA i ddatblygu Rhaglen Waith Unigol ar gyfer

       plentyn.

 

Gwneir defnydd hefyd o’r Gwasanaeth Seicoleg Addysg – ar hyn o bryd ceir 2 sesiwn pob tymor (ac un ychwanegol ar gyfer y Ganolfan Adnoddau Arbenigol)

 

 

Trefniadau ar gyfer Partneriaeth gyda Rhieni

 

Bydd y CADY yn hysbysu'r rhieni drwy lythyr neu ar y ffôn pan fo staff yn mynegi pryder am ddisgybl.  Gwahoddir y rhieni i wneud apwyntiad i weld y CAAA yn ystod noson rieni ac i fynychu adolygiadau i drafod cynnydd y disgybl.  Gall hyn ddilyn pan fo rhiant yn dangos pryder hefyd am gynnydd disgybl. 

 

Bydd angen trafod sut gall y rhieni gynorthwyo'r disgybl yn y cartref, er enghraifft, gyda'r gwaith cartref ac os yn berthnasol eu gwahodd i ymuno gyda'r cynllun darllen cartref neu'r cynllun sillafu cartref.

 

Disgwylir i'r rhieni gwrdd â’r athro dosbarth neu’r CAAA ddwy neu dair gwaith y flwyddyn i drafod cynnydd ac i addasu’r CAU os yn briodol.

 

Bydd angen gwahodd rhieni disgyblion sydd â Datganiad o AAA ar gyfer Adolygiad Blynyddol gan ddilyn canllawiau'r Awdurdod.

 

Dilynir y drefn newydd sydd wedi cael ei amlinellu yn y Cod Ymarfer.

 

Trefniadau i drosglwyddo gwybodaeth pan fo disgybl yn symud ysgol:

 

Bydd y cydlynydd yn cydweithio â’r Pennaeth er mwyn sicrhau bod CAU unrhyw ddisgybl sydd yn symud ysgol ac unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol gan gynnwys ffeil bersonol y disgybl yn cael ei ddanfon gydag asesiadau statudol o gynnydd ac adroddiadau’r disgybl.  Bydd y cydlynydd yn cysylltu â chydlynydd AAA yr ysgol newydd neu’r Pennaeth er mwyn hwyluso’r trosglwyddo.

 

Trefniadau Adolygu’r Polisi

 

Bydd y Polisi yn cael ei addasu’n flynyddol gan y CAAA a’i adolygu’n rheolaidd gan y Cordd Llywodraethau.