Home Page

Blwyddyn 3 - Gwernen

Athro - Mr E John

Can Bethlehem

Bethlehem – pwy sydd heno’n cerdded lawr dy stryd?

Pwy yw’r Baban yn yr isel grud?

Pa wyrth ddaeth heno, Bethlehem?

 

Bethlehem – mae bugeiliaid ar ei ffordd i’r dref,

Dyfod maent yn awr i’w weled Ef,

Pa wyrth ddaeth heno, Bethlehem?

 

Ef yw’r nefol wawr ddaeth i’r llawr mewn eiliad fwyn,

Ef yw’r nefol dân, dwyfol gân, o hyfryd swyn.

 

Bethlehem – wele’r Doethion a’i anrhegion drud

Ar eu ffordd at breseb Brenin byd;

Pa wyrth ddaeth heno, Bethlehem?

 

Ef yw’r nefol wawr ddaeth i’r llawr mewn eiliad fwyn,

Ef yw’r nefol dân, dwyfol gân, o hyfryd swyn.

 

Baban Mair sydd yn cysgu ar ei wely wair,

Ef yw’r un ddaeth atom medd y Gair,

A’i hwn yw’r wyrth ddaeth, Bethlehem?