Skip to content ↓

Blwyddyn 6 - Masarnen

Athrawes - Mrs Jones

Croeso i ddosbarth Masarnen, blwyddyn 6 a blwyddyn olaf ein disgyblion yng Nghoed y Gof. Mae blwyddyn brysur a chyffrous iawn o’u blaenau.

Byddaf i (Mrs Jones) yn y dosbarth ar ddydd Llun, Mawrth a bore Mercher a bydd Mr Edwards yn y Dosbarth am weddill yr wythnos. Bydd Mr Johnson gyda ni hefyd drwy gydol yr wythnos.

Diwrnodau Addysg Gorfforol –

  • Dydd Mercher – neuadd
  • Dydd Iau – tu allan

Gofynnwn yn garedig ’r disgyblion wisgo crys-t gwyn a gwaelod du ac esgidiau addas ar y diwrnodau hyn.

Digwyddiadau cyffrous ar y gweill –

  • Pasbort i’r ddinas
  • Cruicial Crew
  • Gwersi Beicio
  • Gweithdy gyda Stwnsh Sadwrn
  • Cystadlaethau chwaraeon yr Urdd

Eleni, mae pwyslais mawr ar godi safonnau Cymreictod y disgyblion, sgiliau darllen a datblygu strategaethau mathemategol. Byddwn yn ffocysu ar rhain yn ddyddiol a gofynnwn yn garedig i chi ymarfer adref hefyd.

Y tymor hwn byddwn yn archwilio digwyddiadau hanesyddol, gan astudio gwahanol gyfnodau a digwyddiadau o’r gorffennol a gweld pa effaith mae’r rhain wedi cael ar ein bywydau ni heddiw. Byddwn yn cymharu sut mae crefydd, traddodiadau, dyfeisiadau, cymunedau ac addysg wedi newid dros y blynyddoedd a sut y gallai’r dyfodol edrych.

Cofiwch hefyd y bydd negeseuon pwysig yn cael eu rhannu trwy Class Dojo, felly gwiriwch ef yn rheolaidd.

Ewch amdani eleni! Anelwch at y sér!