Tedi y ci
Gwasgwch ar y llun er mayn geld fideo o Tedi
Tedi yw ein ci ysgol cyfeillgar.
Cavapŵ 4 oed yw Tedi a ymunodd â ni ym mis Medi 2021 pan oedd ond yn 6 mis oed. Mae Tedi yn gweithio’n rhan-amser ac yn treulio ei ddyddiau yn Y Cwtch ac Enfys yn Y Caban. Mae’n hoff iawn o chwarae ar cae chwarae yr ysgol gyda’r disgyblion yn ystod amser chwarae ac mae’n mwynhau cwtsho i fyny i wrando ar stori dda.
Oeddech chi’n gwybod?
Cafodd Tedi ei enw gan y disgyblion! Dewisodd plant Y Cwtch new yr un ac yna buont yn ymgyrchu drosto i ennill. Ar ôl pleidlais ysgol gyfan, daeth Tedi i’r brig, gyda Smot yn ail agos iawn.
Amserlen
Mae gan Tedi amserlen arbennig i’w gadw ef — a phawb yn Ysgol Coed y Gof — yn ddiogel ac yn hapus. Mae ei ddiwrnod yn cynnwys:
-
Treulio amser yn y dosbarth gyda disgyblion
-
Bod ar gael yn ystod amser chwarae ac amser cinio i’r rhai sydd angen seibiant tawel o’r iard
-
Mynd am dro ar adegau penodol
-
Cael amser yn ei grât ar gyfer gorffwys ac amser ar ei ben ei hun
Rheolau
Pan fydd Tedi yn yr ysgol, mae’r disgyblion yn dilyn rheolau arbennig i’w gadw’n hapus ac yn ddiogel:
-
Dim rhedeg ar ôl Tedi
-
Os yw Tedi yn ei grât, rhaid peidio â’i aflonyddu
-
Dim bwydo Tedi
-
Dim cymryd ei deganau na’i bryfocio
Dilynwch yr arwyddion ar y drysau hefyd:
-
Poster coch = Mae angen amser tawel ar Tedi – peidiwch â’i aflonyddu
-
Poster gwyrdd = Gallwch ddod i ddweud helo!

