Skip to content ↓

Geiriau caneuon Eisteddfod

Llefaru Blwyddyn 5 a 6 (Year 5 and 6 Reiciting)

Ben i lawr

 

Allwch chi fy helpu?

Mae gen I broblem fawr.

Am ryw rheswm rhyfedd,

Mae fy myd I ben i lawr.

 

Dwi’n teimlo braidd yn unig

Heb lawer iawn o ffrindiau,

Dim ond ambell esgid

A rhesi o bengliniau.

 

Mewn dosbarth dwi’n gweld dim

Ond gwm cnoi o dan y bwrdd.

Ac er ei fod yn flasus,

Mae’n anodd ei gael i ffwrdd.

 

A tydi bwyta ddim yn hawdd,

Boed gawl neu datws trwy’u crwyn.

Mae pob un tamaid, yn ddi-baid,

Yn llithro i fyny fy ‘nhrwyn.

 

Does dim i’m syniad ydy hi’n dri

Neu’n hanner awr wed inaw.

Ac mae gen i ambell bothell fawr

Yn tyfu ar bob llaw.

 

Ond mae Mam yn dweud bod tro

Wrth roi i mi garu mawr…

‘Mae pawb yn teimlo weithiau

Fod eu byd nhw ben i lawr.’

 

 

Can blwyddyn 5 a 6 - Year 5 and 6 solo

 

Cân yr Adar

Clywch byncio pêr yr adar

Ym mrigau llon y coed

Clywch ddeunod clir y gwcw

Yn galw’r Haf I’r coed

Clywch fiwsig brwysg ehedydd

O’r golwg yn y nen

A pheraidd gân mwyalchen

O’r gangen las uwchben

 

Mae'r Robin Goch mor swynol,

Yn eos bach y llwyn,

A'r llinos werdd sy'n chwarae

Â'i nodau cryn mor fwyn.

Mae'r Eurbinc yn ei afiaith,

A'i wisg mor lliwgar dlos,

Yn galw ar ei gariad

A'i ben bach fel y nos.

 

Un swil yw Coch y Berllan,

Er tlysed yw ei gân,

Gall ganu fel yr eos

Neu byncio'n ddiwahân.

Clywch adar bach yn canu

Mae'r wig i gyd yn gôr

Mae'r adar bach yn moli

Â'u diolch pêr i'r Iôr

 

Parti Unsain blwyddyn 5 a 6 / Unison Party for years 5 and 6

Pennill 1

Pan fyddai’n fawr, yn gryf fel cawr a thal fel Gareth Bale,

Dwy droed ar ras mewn sannau bras, fel Fishlock ar y bêl,

 Gwisgo'r crys yn un o chwys, fel Ingle yn y gad,

 Cic am y gôl, heb edrych nôl, a sgorio dros fy ngwlad!

 

Gôl! Gôl! Sgor- io gôl! Gôl! Gôl! Sgor- io gôl!

Sgorio gol I Gymru, Clywch y dorf yn dathlu,

Sgorio gol i Gymru fach

 

Daw rhyw ddydd dim ond I mi gadw’r ffydd, gyfle I wneud fy rhan

O mor braf fydd y diwrnod pan y caf chwarae dros Gymru fach

Gymru fach

Gol! Gol! sgorio gol! Gol! Gol! Sgor- io gôl!

 

Sgorio gôl i Gymru, Clywch y dorf yn da- thlu,

Sgor- io gôl i Gym-ru fach

Gol Gol Sgorio Gol

Sgorio I Gymru fach

IE!

 

Pennill 2

Byddaf rhyw ddydd yn seren fydd yn enwog wyddoch chi,

Cwpan y Byd yn mynd â ‘mryd, Ampadu, gwylia di!

Môr o liw cefnogwyr triw yn bloeddio dros eu gwlad!

Saethu i’r gôl, heb edrych nôl, a sgorio dros fy ngwlad!

             

Can blwyddyn 3 a 4 / Year 3 and 4 solo

 

A io A Io

O, dewch am dro ar fwrdd fy llong fach i,

Y Capten ydw i,

A io A io

O, dewch am dro, I forio ar y lli.

 

A - hoi! A- hoi! O, beth am ffoi

I wlad y tylwyth teg

A aeth a dan -nedd o 'ngheg!

A hoi A hoi

O, beth am ffoi, Dan awel dirion deg.

 

Fy ffrind Fy ffrind! Mae’n amser mynd I lawr I Begwn y De

Pengwiniaid dros y lle

Fy ffrind! Fy ffrind! Mae’n amser mynd!

Ond adref amser te

 

Llefaru blwyddyn 3 a 4 / Year 3 and 4 reciting

“Go dda!” medd Mrs Williams

“Mi wnest dy orau glas

Sdim ots os wnes ti faglu

A pheidio a gorffen y ras”.

 

Nid ennill sydd yn bwysig

Ond cymryd rhan â gwên,

Os yw dy dîm yn colli

Rhaid ysgwyd llaw yn glen.

 

“Sdim ots wrth chwarae criced

Os mai ti oedd yr unig un

I fethu’r bêl bob cyfle

A llwyddo i daro dy hun”

 

“Cymeraist ran yn hwyliog,

A dyna ydi’r nod,

Nid ceisio curo’r gweddill

A chwilio am sylw a chlod.”

 

Gofynnais i Mrs Williams,

(Sy’n gwybod pob peth yn y byd),

Os mai cymryd rhan sy’n bwysig

Pam cadw sgôr o hyd?”

 

Llefaru blwyddyn 1 a 2 / Reciting for years 1 and 2

 

Car Bach Hud

 

Dydy'r teulu ddim yn gwybod,

Ond mae gen i gar bach hud, 

Rwy'n gallu'i yrru ddydd neu nos

a mend i bellter byd.

 

Does dim angen drop o betrol

Er mwyn cyfhwyn ar y daith

A does dim anagen pasio'r prawf

na gwisgo gwregys chwaith

 

Mae'n brecio a chyflymu

a throi i'r chwith a'r dde

Mae'n barod iawn i fynd a fi

yn wir i unrhyw le

 

Er mai ond un sydd ynddo

mae'r car yn llawn o sbri

ac yn hollol anweledig

i bawb trwy'r byd ond fi. 

 

Unawd blwyddyn 1 a 2 / Solo for years 1 and 2

Mi hoffwn i gael gwyliau draw yn y Caribi

More barf a gland yw'r traethau draw yn y Caribi

Hwylio, deifio, nofio a sbalshio, canu calypso, draw yn y Caribi

O dewch yno efo fi

 

More hyfryd fydd y tywydd, draw yn y Caribi

Cawn frecwast dan y palmwydd, draw yn y Caribi

Casglu cregyn, reidio yr Gwyn, chwarae a'r dolffin, draw yn y Caribi

O dewch yno efo fi