Y Cwtch
Y Cwtch – Cefnogi Pob Dysgwr
Y Cwtch yw ein darpariaeth dosbarth bach sydd wedi’i chynllunio i gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n elwa o gymorth ychwanegol. Ers ei sefydlu yn 2019, mae Y Cwtch wedi tyfu ac addasu i gwrdd ag anghenion ein dysgwyr, ac mae'r dosbarth nawr yn rhannu Caban gyda Dosbarth Enfys, ein hail ddosbarth bach.
Mae’r dosbarth yn cefnogi hyd at 12 o ddisgyblion gyda chymorth dau aelod o staff ymroddedig. Mae disgyblion yn mynychu Y Cwtch bob bore ac yna’n ymuno â’u dosbarthiadau prif ffrwd gyda chymorth oedolyn yn y prynhawn. Mae hyn yn sicrhau cydbwysedd rhwng cymorth arbenigol a chyfranogiad llawn yn yr ysgol.
Mae pob plentyn yn dilyn rhaglen benodol ar gyfer llythrennedd a rhifedd, gyda gweithgareddau byr, ochr yn ochr â thasgau a arweinir gan oedolyn sydd wedi’u teilwra i hanghenion dysgu unigol y disgybl.
Dyma erthygl a ysgrifennwyd am ein dosbarth hyfryd
Gwaswch y llun er mwyn gweld fideo am y Cwtch:

