Skip to content ↓

Blwyddyn 5 - Castanwydden

Athrawes - Miss Morgans

Croeso i Ddosbarth Castanwydden!

Bydd Mrs DuCroq-Slip a Miss Hill yn cefnogi'r dosbarth bob prynhawn. Bydd Mr Edwards yn addysgu'r dosbarth ar foreau dydd Mercher. Rydym yn edrych ymlaen at dymor prysur a llwyddiannus sy'n llawn profiadau dysgu diddorol!

Addysg Gorfforol: Dydd Mercher, Dydd Iau

Gofynnwn yn garedig i'r plant ddod â chrys-t gwyn a siorts / trowsus du ar gyfer y gwersi hyn.

Dros yr wythnosau nesaf bydd y disgyblion yn archwilio'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol, gan ddysgu sut mae pobl, cartrefi, ysgolion, technoleg a chymunedau wedi newid dros amser. Byddwn yn datblygu ein sgiliau ymchwilio wrth gymharu bywyd yn y gorffennol â bywyd heddiw ac yn ystyried sut y gallai'r dyfodol edrych.

Bydd llyfrau darllen yn cael eu hanfon adref yn rheolaidd a sicrhewch bod eich plentyn yn eu dychwelyd.

Cofiwch hefyd y bydd negeseuon pwysig yn cael eu rhannu trwy Class Dojo, felly gwiriwch ef yn rheolaidd.