Skip to content ↓

Blwyddyn 2 - Ywen

Athrawes - Miss Davies

Croeso i Ddosbarth Ywen

Bydd Mrs Jakab a Mr Hughes yn ein helpu ni yn y dosbarth. Ar Ddydd Llun Mrs McConnell fydd yr athrawes ddosbarth. Rydym yn gyffrous am flwyddyn llawn hwyl, dysgu a gwneud llawer o atgofion hapus gyda’n gilydd! 

Ymarfer corff

Gwersi ymarfer corff tu allan: Prynhawn dydd Mercher

Gwersi ymarfer corff tu fewn: Bore dydd Gwener

Gall y plant ddod i’r ysgol yn gwisgo eu cit ymarfer corff ar y dyddiau hyn.

Ysgol y Goedwig

Bydd Ysgol y Goedwig bob prynhawn Mawrth. Mae’n bwysig iawn bod eich plentyn yn dod â’r dillad cywir ar gyfer y sesiynau hyn. Mae esgidiau glaw a dillad gwrth-ddŵr yn hanfodol, yn enwedig mewn tywydd gwlyb, er mwyn sicrhau bod y plant yn gallu cymryd rhan yn llawn, archwilio’r awyr agored a mwynhau eu hamser yn Ysgol y Goedwig.

Llythrennedd – Tric a Chlic

Y tymor hwn, byddwn yn parhau i ddatblygu sgiliau llythrennedd y plant drwy raglen Tric a Chlic. Byddwn yn adolygu a chryfhau eu gwybodaeth o synau a phatrymau sillafu’r Gymraeg er mwyn cefnogi eu darllen a’u hysgrifennu.

Rhifedd

Yn ein gwersi rhifedd, byddwn yn parhau i ddatblygu ein sgiliau rhif drwy ddilyn cynllun gwaith Big Maths ac ymarfer CLIC yn ddyddiol.

Ymholiad – Dyniaethau

Ar gyfer ein hymholiad y tymor hwn, byddwn yn dysgu am ddoe, heddiw ac yfory. Byddwn yn edrych ar sut mae pethau wedi newid dros amser a sut mae bywyd yn wahanol nawr i'r gorffennol. Byddwn hefyd yn archwilio i fyd y deinosoriaid.

Darllen yn y Cartref

Bydd y plant yn dod â bag darllen adref er mwyn mwynhau darllen gartref gyda chi. Bydd gan bob grŵp ddiwrnod penodol i ddod â’u bag darllen yn ôl i’r ysgol. Byddwn yn rhoi nodyn yn y bag i nodi pa ddiwrnod sy’n berthnasol i’ch plentyn.

ClassDojo

Byddwn yn defnyddio ClassDojo i ddathlu cyflawniadau’r plant. Byddwn hefyd yn defnyddio ClassDojo i rannu gwybodaeth a diweddariadau pwysig gyda chi. Gallwch ddefnyddio’r ap hefyd i gysylltu â ni ac anfon neges at athro’r dosbarth os oes angen.