Meithrin a Derbyn - Mes
Athrawes - Mrs Davies
Croeso i Ddosbarth Mês
Athrawes dosbarth – Mrs Fran Davies
Cynorthwyon dosbarth – Ms Catrin Kemp, Miss Natasha Hill
Rydym yn ddosbarth cymysg o blant Meithrin a Derbyn. Mae eleni’n flwyddyn gyffrous iawn gan mai dyma’r tro cyntaf i’r ysgol gael dosbarth Meithrin, sy’n roi cyfle i’n plant ieuengaf ddechrau eu taith addysgol o’r cychwyn yn Ysgol Coed Y Gof.
Rydyn ni’n treilio llawer o’n hamser yn ein hardaloedd dysgu tu allan, felly gofynnwn yn garedig bod eich plentyn yn dod i’r ysgol mewn dillad ac esgydiau sy’n addas ar gyfer y tywydd.
Ymarfer corff
Sessiynnau tu allan - Bore Mercher
Sessiynnau tu mewn - Bore Iau
Yn ystod y tymor cyntaf, byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau symud sylfaenol, Dilyn cyfarwyddiadau a newid cyfeiriad..
Fe fydd angen ar eich plentyn, crys t gwyn a siorts neu trowsus du
Gall y plant ddod i’r ysgol yn gwisgo eu cit ymarfer corff ar y dyddiau hyn.
Ysgol y Goedwig
Bydd Ysgol y Goedwig bob prynhawn Mercher. Mae’n bwysig iawn bod eich plentyn yn dod â’r dillad cywir ar gyfer y sesiynau hyn. Fe fydd angen:
- gwisg gwrthddwr
- wellies
- dillad cynnes (mewn tywydd oer)
Mae rhai eitemau dillad gwrth ddwr gyda ni yn yr Ysgol. Rhowch wybod i aelod o staff os ydych chi angen benthyg unrhyw eitemau.
Ymwybyddiaeth ffonolegol.
Tymor hyn fe fydden ni’n dechrau trwy weithio ar ddatblygu sgiliau gwrando a chlywed eich plentyn trwy adnabod a chysylltu seiniau yn yr amgylchedd, clapio a chopio rhythmau, clywed seiniau cychwynnol gair a chyflythrennu. Wrth symyd ymlaen i ddefnyddio rhaglen ffoneg Tric a chlic pan fydd eich plenty yn barod.
Rhifedd
Wrth weithio gyda rhifau fe fydden ni’n canu caneuon rhif amrywiol gan ganolbwyntio ar werth rhif drwy greu setiau yn ymarferol gyda deunyddiau naturiol. Fe fydden ni hefyd yn chwilio am ac enwi siapiau 2D syml yn yr amgylchedd.
Ymholiad
Ar gyfer ein ymholiad y tymor hwn fe fydden ni’n edrych ar ein nunain, ble rydyn ni’n byw a’r byd naturiol o’n cwmpas. Canolbwyntiwn yn arbennig ar y newid mewn tynhorau a sut mae hyn yn effeithio byd natur.
ClassDojo
Class dojo yw prif system cyfathrebu yr ysgol. Gofynnwny n garedig i chi gadw llygad am negeseuon a lluniau wrth i ni ddathlu dysgu y disgyblion.
Edrychwn ymlaen at rannu flwyddyn llawn hwyl a sbri.




