Skip to content ↓

Yr Enfys

Uwch gynorthwy-ydd - Miss Murphy

Croeso i Ddosbarth Enfys!

Mr James a Miss Green yw ein cynorthwyydd dosbarth. Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn llawn hwyl, dysgu ac atgofion hapus gyda’n gilydd!

Ymarfer corff

Gwersi ymarfer corff tu allan: Bore Gwener

Gwersi ymarfer Corff tu fewn: Bore Llun

Gall y plant ddod i’r ysgol yn gwisgo eu cit ymarfer corff ar y dyddiau hyn.

Ysgol y Goedwig

Bydd Ysgol y Goedwig bob bore Mawrth. Mae’n bwysig iawn bod eich plentyn yn dod â’r dillad cywir ar gyfer y sesiynau hyn. Mae esgidiau glaw a dillad gwrth-ddŵr yn hanfodol, yn enwedig mewn tywydd gwlyb, er mwyn sicrhau bod y plant yn gallu cymryd rhan yn llawn, archwilio’r awyr agored a mwynhau eu hamser yn Ysgol y Goedwig.

Llythrennedd – Tric a Chlic

Y tymor hwn, byddwn yn canolbwyntio ar y rhaglen lythrennedd Tric a Chlic. Byddwn yn dysgu ac yn ymarfer llythrennau'r wyddor ac yn adeiladu geiriau syml.

Rhifedd

Yn ein gwersi rhifedd, byddwn yn canolbwyntio ar adnabod a ffurfio rhifau, gan barhau â’n cynllun gwaith Big Maths. 

Ymholiad – Dyniaethau

Ar gyfer ein ymholiad y tymor hwn, ein maes ffocws yw Dyniaethau. Byddwn yn dysgu am ddoe, heddiw ac yfory, gan archwilio sut mae ein bywydau wedi newid dros amser. Byddwn yn edrych ar gartrefi hen a newydd, golchi, ffermio ac anifeiliaid, gan gymharu bywyd yn y gorffennol â bywyd heddiw. Bydd y plant hefyd yn defnyddio blwch dirgel a gweithgareddau didoli i archwilio gwrthrychau a lluniau o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol. 

Darllen yn y Cartref

Bydd y plant yn dod â bag darllen adref gyda nhw er mwyn mwynhau darllen gartref gyda chi.

ClassDojo

Byddwn yn defnyddio ClassDojo i ddathlu cyflawniadau’r plant. Byddwn hefyd yn defnyddio ClassDojo i rannu gwybodaeth a diweddariadau pwysig gyda chi. Gallwch ddefnyddio’r ap hefyd i gysylltu â ni ac anfon neges at athro’r dosbarth os oes angen.