Cefnogaeth i rieni
Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd / Porth i Deuluoedd
-
Y pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw riant, gwarcheidwad neu weithiwr proffesiynol sydd angen cyngor neu gymorth.
-
Cymorth ar faterion megis arian a chostau byw, tai, budd-daliadau, gofal plant, presenoldeb ysgol, ymddygiad plant, cymorth rhianta, anghenion ychwanegol a lles.
-
Ffôn: 03000 133 133 · E-bost: ContactFAS@cardiff.gov.uk

SNAP Cymru – Crynodeb a Chyswllt
Mae SNAP Cymru yn cynnig cyngor a chymorth am ddim ac yn annibynnol i rieni, plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu anableddau. Maent yn helpu gyda materion megis asesiadau, cynlluniau addysg unigol, bwlio, presenoldeb ysgol, gwaharddiadau a gwahaniaethu. Maent hefyd yn darparu eiriolaeth a datrys anghytundebau rhwng teuluoedd ac ysgolion.
-
Llinell Gymorth: 0808 801 0608
-
E-bost: enquiries@snapcymru.org
-
Gwefan: www.snapcymru.org
Niwroamrywiaeth Cymru – Crynodeb i Rieni
Mae Niwroamrywiaeth Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor i deuluoedd ac ysgolion ynghylch awtistiaeth, ADHD a chyflyrau niwroamrywiol eraill. Maent yn cynnig adnoddau dwyieithog, canllawiau ymarferol a sesiynau rhieni i helpu teuluoedd i ddeall a chefnogi plant niwrowahanol.
-
Ffôn: 07469 485 643
-
E-bost: AutismWales@wlga.gov.uk
-
Gwefan: www.neurodivergencewales.org

Gweithdai i rieni
Rydym yn trefnu cyfarfodydd a gweithdai misol i rieni a gofalwyr ar bynciau y mae rhieni wedi'u gofyn yn Ystafell Gymunedol ein Hysgol.
Dyma'r gweithdai rydym wedi'u trefnu hyd yma:
|
Dyddiad |
Gweithdy |
Hyrwyddwr |
|
02.02.24 |
Cyflwyniad i Anghenion Dysgu Ychwanegol - Introduction to Additional Learning Needs |
Laura Casey |
|
23.02.24 |
Cyflwyniad i Niwroamrywiaeth - Introduction to Neurodiversity - part 1 |
Laura Casey |
|
18.03.24 |
Gweithdy Unmbrella- Umbrella workshop |
ACE/Umbrella |
|
18.03.24 |
Cyflwyniad i Niwroamrywiaeth - Introduction to Neurodiversity - part 2 |
Laura Casey |
|
29.03.24 |
Delio ag emosiynau mawr - Dealing with Big Emotions |
Gareth Jones |
|
26.04.24 |
Llwybr Niwroddatblygiadol - Neurodevelopmental Pathway |
Bethan Jones |
|
14.06.24 |
Cymell emosiynau - Emotional coaching |
Dr Luke Ryan |
|
02.07.24 |
Community Connectors |
Community Connectors |
|
26.09.24 |
Cwrdd a’r Athrawon Arbenigol - Meeting the Specialist Team |
Timoedd Arbenigol |
|
20.11.24 |
Cefnogi Llythrennedd adref - Supporting Literacy at home |
Lisa Sarracini |
|
13.12.24 |
Cyflwyniad i’r Llwybr Niwroddatblygiadol - Introduction to the Neurodevelopmental Pathway |
Bethan Jones |
|
17.01.25 |
Gwobrau, sancsiynau a chanlyniadau - Rewards, sanctions and consequences |
Gareth Jones |
|
03.02.25 |
Community Connectors |
Community Connectors |
|
18.02.25 |
Cefnogi iaith a lleferydd adref - Supporting speech and language at home |
Sarah Smitham |
|
20.03.25 |
Cymell emosiynau - Emotional coaching |
Dr Luke Ryan |
|
|
|

