Skip to content ↓

Blwyddyn 4 - Collen

Athrawes - Mrs M Davies

Ni yw'r Doethion (Yellow Submarine) (1).mp3

 

 

Doethion (Yellow Submarine)

Ni yw’r Doethion ddaeth o bell,
Yn y dwyrain rym yn byw;
Ac wrth edrych tua’r nef
Gwelsom arwydd clir gan Dduw.

Yr oedd seren uwch ein pen
Yn ein harwain tua’r dref;
Ceisio Brenin yw ein nod,
Ac wrth ddilyn, gwelwn Ef!

Cytgan

Ni yw’r Doethion sy’n mynd i Fethlehem!
Mynd i Fethlehem! Mynd i Fethlehem!
Ni yw’r Doethion sy’n mynd i Fethlehem!
Mynd i Fethlehem! Mynd i Fethlehem!

Wedi darllen llyfrau lu
Gwyddom oll am Fab y Nef;
Clywch yr utgyrn nefol fry –

(Utgyrn)

Cytgan

Dacw’r seren fry uwchben,
Dyma golau gorau’r nef;
Ac wrth ddilyn seren wen
Cawn ein harwain ato Ef!

Cytgan