Bwrlwm
Bwrlwm yn Ysgol Gymraeg Coed y Gof
Mae Bwrlwm yn gynllun chwarae agored a gweithgareddau gwyliau cyfrwng Cymraeg am ddim, a drefnir gan Menter Caerdydd ar gyfer plant o'r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6.
Beth yw Bwrlwm?
Cyfle hwyliog a diogel i blant fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:
- Gemau a chwarae grŵp
- Chwaraeon a gweithgareddau corfforol
- Adeiladu gyda Lego
- Gweithgareddau tymhorol a chreadigol
- Danteithion a syrpreisys hwyliog
Pwy all fynychu?
Disgyblion o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6.
Cost
Am ddim
Cofrestru
Cofrestru ar y diwrnod
Pryd?
Bob gwyliau hanner tymor
Mae Bwrlwm yn ffordd wych i blant gymdeithasu, defnyddio'r Gymraeg mewn amgylchedd hamddenol, a mwynhau gweithgareddau hwyliog yn ystod y gwyliau ysgol.

