Skip to content ↓

Presenoldeb

Mae cysylltiad clir iawn rhwng presenoldeb da a sut y bydd eich plentyn yn cyflawni yn yr ysgol.

Gwnewch pob ymdrech i ddanfon eich plentyn i'r ysgol , os oes unrhyw broblem cysylltwch â'r ysgol er mwyn i ni geisio helpu. 

Salwch 

Os yw eich plentyn yn sâl yn ystod y diwrnod ysgol, fe fyddwn yn cysylltu â chi er mwyn eich galluogi i'w gasglu. Os na fyddwn yn medru cysylltu â rhieni/gwarchodwyr yna fe fyddwn yn cysylltu â'r rhifau cyswllt a ddarparwyd gennych chi. Mae'n hanfodol bwysig i chi ddiweddaru'r rhifau cyswllt yma os oes unrhyw newid. 

Cofnodir unrhyw ddamweiniau yn yr Ysgol ac fe fydd rhieni yn derbyn nodyn gyda manylion y digwyddiad. Hysbysir rhieni/gwarchodwyr am bob bwmp pen. 

Ni chaniateir i ddisgyblion fynychu'r Ysgol os ydynt yn dioddef o salwch heintus, megis Brech yr Ieir, y Frech Goch, Llid yr Amrant, chwydu a dolur rhydd. Dilynwch y linc yma i Iechyd Cyhoeddus Cymru am fwy o wybodaeth.