Meddiginiaeth
Meddiginiaeth
Dim ond meddyginiaeth a ragnodwyd gan weithiwr iechyd proffesiynol y gall yr ysgol ei rhoi i ddisgyblion yn ystod y diwrnod ysgol. Cysylltwch â’r dderbynfa i gael y ffurflen berthnasol, y bydd angen i chi ei llenwi.
Alergeddau
Os oes gan eich plentyn alergedd a allai olygu bod angen sylw meddygol arno, rhowch wybod i’r ysgol cyn gynted â phosibl.
Rydym yn cydweithio’n agos â thîm meddygol yr Awdurdod Lleol, ac mae nyrs yr ysgol ar gael i ddarparu hyfforddiant a chyngor ar sut i ymateb mewn argyfwng.
Mae gan rai disgyblion yn yr ysgol alergedd difrifol i gnau. Er mwyn helpu i gadw pawb yn ddiogel, ni chaniateir unrhyw fath o gnau yn yr ysgol.
