Diogelu

Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am ddiogelwch ac amddiffyn y plant sy’n mynychu’r ysgol.
Os oes pryderon ynglŷn ag esgeulustod neu niwed corfforol, emosiynol neu rywiol yna, o dan weithdrefnau amddiffyn plant y Sir, mae’n ddyletswydd ar staff i son am y mater wrth athro/ swyddog amddiffyn plant dynodedig yr ysgol.
Gall athro diogelu plant dynodedig yr ysgol ymgynghori â chyd weithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol.
Yn dilyn y trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i athro diogelu plant dynodedig yr ysgol gyfeirio’r plentyn yn swyddogol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio. Oblegid natur y cyhuddiadau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod materion gyda’r rhieni cyn cyfeirio’r plentyn. Y gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyhuddiadau.
Swyddog Dynodedig Amddiffyn Plant
Ms Carys Prytherch
Swyddog Dynodedig Amddiffyn Plant
Mrs Laura Casey
Dirprwy Swyddog Dynodedig Amddiffyn Plant
Mrs Elin Jones
Llywodraethwr Dynodedig Amddiffyn Plant
Mrs Ceri McEvoy
Cadeirydd y Llywodraethwyr
Mrs Llinos Bradbury
