Allgyrsiol
Gweithgareddau a phrofiadau all gyrsiol
Rhoddir cryn bwysigrwydd i weithgareddau’r Urdd yn Ysgol Coed-Y-Gof. Mae’n hybu diwylliant ac yn gwneud y plant yn fwy ymwybodol o’u cefndir a’u gwreiddiau. Maent hefyd yn cael cyfle drwy’r mudiad i gwrdd â gwneud ffrindiau newydd o bob rhan o Gymru. Bydd Blwyddyn 6 yn ymweld â gwersyll yr Urdd yn Llangrannog fel rhan o’u cwrs addysg. Cystadleuwn yn frwd ymhob math o gystadlaethau'r Urdd bob blwyddyn.
Cynhelir Clwb Aml-chawraeon yr Urdd i ddisgyblion Bl 3 & 4 yn yr ysgol bob nos Iau ar ôl gwersi. Cesglir tâl aelodaeth yn nhymor yr Hydref bob blwyddyn (mae aelodaeth yn galluogi’r plentyn i gystadlu yng nghystadlaethau swyddogol yr Urdd. NID OES rhaid ymaelodi er mwyn mynychu clwb wedi ysgol yr Urdd).
Rydym yn rhedeg clybiau allgyrsiol eraill wedi ysgol yn ogystal. Mae’r clybiau a cgynnigiwyd yn newid bob tymor – mae copi cyfredol ar gael yn y cylchlythyr.
