Croeso
Ein nod yw cynnig addysg a gofal o’r safon uchaf mewn awyrgylch hapus, caredig, gweithgar a diogel fel bod pob plentyn, beth bynnag eu gallu, yn cyrraedd eu llawn potensial.
Yng Nghoed-Y-Gof ein bwriad yw creu cymuned ysgol sy’n:
- cynnwys pawb ac sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb
- gwerthfawrogi yr unigolyn
- ennyn parch yn y plant at eu hunain ac eraill
- dathlu cyflawniad
- creu ymwybyddiaeth gref o Gymreictod a meithrin balchder yn yr iaith
- paratoi y plant at y cam nesaf yn eu haddysg ac mewn bywyd
- rhoi profiadau cofiadwy a gwerthfawr i pob disgybl
