Tystysgrif Dyslecsia Cyfeillgar

Sut mae ysgol yn dod yn ‘Gyfeillgar i Ddyslecsia’?
Mae ysgolion sy’n ennill y wobr yn dangos eu bod yn:
Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
Mae staff yn derbyn hyfforddiant ar ddyslecsia, strategaethau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, a ffyrdd o addasu addysgu i gefnogi disgyblion ag anawsterau llythrennedd.
Defnyddio arferion addysgu cynhwysol
Mae gwersi’n cynnwys dulliau sy’n cefnogi dysgwyr â dyslecsia, megis rhannu tasgau’n gamau, defnyddio dysgu aml-synhwyraidd, a chynnig ffyrdd amgen o ddangos dealltwriaeth.
Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd
Mae ysgolion yn rhannu gwybodaeth â rhieni ac yn croesawu adborth ar beth sy’n gweithio orau i’w plentyn.
Monitro a gwella
Mae ysgolion yn adolygu pa mor effeithiol yw’r strategaethau a ddefnyddir, ac yn cynllunio camau nesaf i gryfhau’r ddarpariaeth.
Mae hyn yn adlewyrchu canllawiau Gwasanaeth Cynhwysiant Caerdydd, sy’n hyrwyddo arferion sy’n gyfeillgar i ddyslecsia ar draws ysgolion.
Beth mae hyn yn ei olygu i’ch plentyn?
Os yw ysgol eich plentyn wedi ennill Gwobr Ysgol Gyfeillgar i Ddyslecsia neu Ymwybyddiaeth Dyslecsia, mae hyn yn golygu:
-
Bod athrawon yn ymwybodol o ddyslecsia ac wedi’u hyfforddi mewn strategaethau cefnogol,
-
Bod cyfleoedd clir i gyfathrebu a chydweithio â’r ysgol ar gefnogaeth unigol.
-
Bod diwylliant yr ysgol yn gwerthfawrogi gwahanol ffyrdd o ddysgu a meddwl.
Sut gall rhieni a gofalwyr fod yn rhan o’r broses
Gallwch chi fel rhiant neu ofalwr:
-
Ofyn i’r ysgol am wybodaeth ynghylch eu gwobr a’u dulliau sy’n gyfeillgar i ddyslecsia.
-
Darganfod pa strategaethau neu addasiadau penodol sy’n cael eu defnyddio i gefnogi’ch plentyn.
-
Gofyn am gyfarfodydd i adolygu cynnydd a chefnogaeth eich plentyn.
-
Rhannu eich profiadau a’ch syniadau am beth sy’n gweithio orau.

