Skip to content ↓

Eisteddfod yr Urdd 2025

Unawd Bl. 2 ac iau

 

 

Trac gyda llais

 

 

O Lili wen fach, o ble daethost ti,
a'r gwynt mor arw ac mor oer ei gri?
Sut mentraist di allan drwy'r eira i gyd?
Nid oes flodyn bach arall i'w weld yn y Byd!

Ond mae gennyt fantell dros dy wisg wen,
a'r ffordd fwyaf deyngar o blygu dy ben.
Nid oes eira na gwynt, nid oes dewin n a gwrach,
all fentro gwneud niwed i'r lili wen fach.

Unawd 3 a 4 - Hufen Ia

 

 

Trac gyda llais

 

 

Mae 'na rhai sy'n hoffi sglodion
ambell un yn bwyta'n iach,
Cinio Sul yn ffefryn arall
rhai'n joio cael te bach.
Ond i mi 'sdim byd yn curo, 
Boed hi'n aeaf oer neu ha',
amser brecwast, te neu swper
O! rhowch i mi hufen ia!
Hufen ia, Hufen ia, llond fy mol o hufen ia!

Hufen melys, hufen blasys
dros fy wyneb yn un slemp,
A'r diferion oer yn dripian
a nerfau mam yn rhemp.
Ond yn sydyn dyma godwm
gweiddi croch a dagrau mawr
Wel am siom mae'r hufen melys
bellach yn lwmp ar lawr.
Hufen ia, Hufen ia, llond fy mol o hufen ia!

Unawd Bl.5 a 6

 

 

Y Geiriau

 

 

Trac gyda llais

 

 

Pan ddel y Gwanwyn tyner a llawen gerdd i'r llwyn
Mor ber fydd mawl ehedydd uwch si awelon mwyn.
Daw llu o adar newydd bob dydd i blith y cor,
A chennad Haf fydd deunod y gwcw dros y mor.

O frig i frig mae'r wiwer mor chwim o sbonc i sbonc.
Ac wrth y clawdd mae'r draenog , a'r neidr eto'n sionc.
Dros fryn a dol mae'r wennol yn gwibio'n chwim fel saeth
A'r nant a gan ei salmau yn rhydd o'r Gaeaf caeth.

Mae'r Byd i gyd yn gyffro daeth Gwanwyn yn ei dro:
mae natur weid deffro ym mhobman drwy y fro.

Parti Unsain - Mynd i'r Ffair

 

 

Mynd ar wib, nol a mlaen, lan a lawr, chwerthin mawr, dweud 'run gair
Cyn mynd ar wib, nol a mlaen, lan a lawr, na hwyl y ffair.

Waltzers chwil a bumping cars a'r olwyn fawr,
Fry'n yr awyr, 'nhraed i lan a 'mhen i lawr
O mae'n hwyl, Mam mae'n hwyl yn y ffair,
Mynd ar wib, nol a mlaen, lan a lawr, 'na hwyl y ffair.

Afal taffi a marshmallows a dwy reid, 'mhen i'n troi a 'mol i'n corddi a rhoi naid,
O mae'n hwyl, Mam mae'n hwyl yn y ffair,
Mynd ar wib, nol a mlaen, lan a lawr, 'na hwyl y ffair.

Prynu burger, candi fflos a choc neu ddau
Wedyn ras am un reid arall cyn 'ddi gau.
O dwi'n sal, Mam dwi'n sal, yn y ffair
O dwi'n sal, Mam dwi'n sal, yn y ffair