Skip to content ↓

Eco-Sgolion

Y Cyngor Eco

Rydym ni yng Nghoed y Gof am ofalu am ein byd a’r amgylchedd.  Gall bob un ohonom wneud newid mawr trwy wneud rhai newidiadau bach, megis:

  • diffodd goleuadau;
  • diffodd tapiau dŵr;
  • diffodd cyfrifiaduron;
  • cau drysau mewn tywydd oer;
  • casglu sbwriel;
  • arbed, ail-ddefnyddio ac ail-gylchu deunyddiau (e.e. papur, plastig, dillad, cetris);
  • tyfu llysiau a ffrwythau.

Gwnawn hyn oll i sicrhau dyfodol gwell i ni, ein byd a phlant y dyfodol.