Skip to content ↓

Gwisg Ysgol

Gofynnwn yn garedig i bob rhiant ein cefnogi gyda'r polisi gwisg ysgol.

Mae'r wisg ysgol fel â ganlyn:

  • hwdi coch (gyda bathodyn yr ysgol yn opsiwn);
  • crys chwys goch (gyda bathodyn yr ysgol yn opsiwn);
  • crys polo gwyn neu goch (gyda bathodyn yr ysgol yn opsiwn);
  • trowsus, siorts neu sgert lwyd;
  • ffrog coch a gwyn;
  • teits neu hosanau gwyn neu ddu;
  • esgidiau du neu trainers du – DIM trainers lliwgar.

Addysg Gorfforol:-

  • crys t gwyn plaen;
  • siorts neu dracwisg du plaen;
  • esgidiau ymarfer

Gellir prynu’r wisg swyddogol yn Designs & Signs (029 20666762) neu J.M.Textiles (029 20709688). Maent yn gwerthu bagiau ysgol ar gyfer llyfrau darllen a dillad Addysg Gorfforol yn ogystal.

Er mwyn diogelwch, ni chaniateir i ddisgyblion fynychu gweithgareddau ysgol (megis ymweliadau a gwibdeithiau) heb fod ganddynt wisg ysgol.

Ni chaniateir dillad anaddas ar gyfer yr ysgol megis sodlau uchel neu drowsus sy’n debygol o achosi’r perchennog i faglu. Gwaherddir dillad gyda negeseuon a logos ynghŷd â ffasiynau drudfawr megis dillad pel droed. Gofynnwn hefyd i chi gadw gwallt eich plentyn mewn lliw a steil naturiol h.y. dim llinellau ac ati yn ystod y tymor ysgol.