Y Cyngor Ysgol
Corff wedi ei ethol yn ddemocrataidd yw’r cyngor ysgol. Mae aelodau’r cyngor yn cael eu hethol gan eu cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu dosbarth ar y cyngor. Rydym yn cwrdd yn rheolaidd gydag aelod o’r staff i drafod materion am yr ysgol neu i godi arian dros achosion arbennig.
Yn ogystal â chefnogi elusennau gwahanol, byddwn yn ffocysu eleni ar y dysgu ac addysgu ar draws yr ysgol!
