Skip to content ↓

Siarter Iaith/ Welsh Language Charter

Ers lansio’r Siarter Iaith Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof mae llawer o waith gwerth chweil wedi digwydd yn ein hysgol.

Nod y Siarter Iaith yw dylanwadu’n bositif ar ddefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg. Mewn gair, cael y plant i siarad Cymraeg yn naturiol ymysg ei gilydd.

Mae’r Siarter Iaith yn gofyn am gyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - y cyngor ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.

Rydym eisoes wedi ennill y Wobr Efydd (2018) a byddwn yn gweithio'n galed dros y flwyddyn nesaf tuag at y Wobr Arian!

Gwersi Cymraeg i Oedolion

Manteision Dwyieithrwydd

Targedau’r Ysgol

Rydym yn gweithio ar 5 targed yn yr ysgol (gyda ffocws penodol ar ddefnydd o'r iaith Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth) eleni sydd yn cynnwys:

1. Siarad Cymraeg gyda'r Athro ar bob achlysur.

2. Siarad Cymraeg gyda fy ngrwp.

3.Siarad Cymraeg tra'n ateb cwestiwn o flaen y dosbarth.

4. Siarad Cymraeg gyda ffrind neu phartner wrth y bwrdd.

5. Siarad Cymraeg yn y dosbarth bob amser.

Aelodau’r Dreigiau / Members 2017-18

Rhaglenni Teledu

 

Apiau Cymraeg

Siaradwyr Cymraeg yr Wythnos

Digwyddiadau