Skip to content ↓

Gwasanaeth Nadolig 2024

O Deuwch Ffyddloniaid

 

 

O! deuwch, ffyddloniaid

O! deuwch, ffyddloniaid, oll dan orfoleddu,
O! deuwch, O! deuwch i Fethlem dref:
Wele, fe anwyd Brenin yr angylion:
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn
Grist o'r nef!

O come, all ye faithful, joyful and triumphant!
O come ye, O come ye to Bethlehem;
Come and behold Him
Born the King of Angels:
O come, let us adore Him,

O come, let us adore Him,

O come, let us adore Him,
Christ the Lord.

Stori'r Preseb

 

 

Stori’r Preseb

Bachgen bach Mair, gwely o wair,
Preseb sydd iddo’n grud.
Arffed ei fam geidw rhag cam,
Ceidw rhag poen y byd.
Joseff sy’n driw ffyddlon i’r byw,
Gwarchod ei fab yn daer.
T’wysog y byd, trysor drud,
Iesu yw mab y saer.

Hon ydyw stori’r preseb,
Hon ydyw stori’r crud,
Hon ydyw stori Bethlem
Hon ydyw stori’r Byd.

Hon ydyw stori’r preseb,
Hon ydyw stori’r crud,
Hon ydyw stori Bethlem
Hon ydyw stori’r Byd.

(Ailadrodd y gytgan ddwy waith)

Hen Hen Stori

 

 

Hen Hen Stori.

Seren wen uwch ben y byd,
Baban annwyl yn ei grud,
Mwyn fugeiliaid ar y rhos,
Gwylio’u praidd yn nhrymder nos.

Golau’n gylch o entrych Nef,
Oenig bychain yn rhoi bref,
Engyl glân a’u cân yn un
Ganwyd heddiw Geidwad dyn.

Dewch, gwrandewch, yr hen, hen stori.
Iesu Grist ddaeth i’n gwaredu.
Dewch a chenwch am y trysor drud.
Yn y gwair, Faban Mair, Gwaredwr byd.

Baban Iesu (Ie!Ie!Ie!) I'm still standing.mp3

 

 

Baban Iesu! (Ie!Ie!Ie!)

Dyma stori’r ‘dolig cyntaf un
Stori geni’r baban geni mab y dyn
Daw ymwelwyr o draw i weld Brenin nef
Bugeiliad ac angylion lu a ddaeth ato ef

Dilyn seren ddisglair at ei grud
Daw brenhinoedd ato ag anrhegion drud
Y babi arbennig, yn anrheg o’r Nen
Yn seren ein stori ni, stori ddaw byth i ben

Cofiwn fod rhan o’r dathlu yw i gofio ef,
Y babi ddaeth gan Dduw yn anrheg ni o’r  Nef
Ac wrth ganu, fe ddathlwn ni
Stori geni babi daeth i farw drosom ni
Baban Iesu. Ie! Ie! Ie!
Baban Iesu. Ie! Ie! Ie!

Mae’n Nadolig, amser prysur iawn
Amser codi coeden a’i addurno’n llawn
Mae ‘na gyffro mawr, mae Santa ar y ffordd
Amser i ni ddod ynghyd i gael dathlu nawr

Cofiwn fod rhan o’r dathlu yw i gofio ef,
Y babi ddaeth gan Dduw yn anrheg ni o’r  Nef
Ac wrth ganu, fe ddathlwn ni
Stori geni babi daeth i farw drosom ni
Baban Iesu. Ie! Ie! Ie!
Baban Iesu. Ie! Ie! Ie!

Guitar

Cofiwn fod rhan o’r dathlu yw i gofio ef,
Y babi ddaeth gan Dduw yn anrheg ni o’r  Nef
Ac wrth ganu, fe ddathlwn ni
Stori geni babi daeth i farw drosom ni
Baban Iesu. Ie! Ie! Ie!
Baban Iesu. Ie! Ie! Ie!

Nadolig llawen. Ie! Ie! Ie!
Nadolig llawen. Ie! Ie! Ie!

Nadolig llawen. Ie! Ie! Ie!
Nadolig llawen!

Rhywle'n Glyd Mewn Atgof

 

 

Rhywle’n Glyd Mewn Atgof

Atgof o mhlentyndod
Pan o ni’n pum chwech saith mlwydd
Deffro’n syth, llawn syndod
Nefoedd Nadolig mor berffaith

Dyddiau annwyl
Pobl gwerthfawr
Gwennu’n llawen, welaf i

Rhywle’n glyd mewn atgof
Ddaw’r Nadolig I’m lloni
Byw o hyd mae’r atgof
Yno mae’r canu
Yno mae’r caru
Yno mae’r teulu adre fo fi

Dyddiau annwyl
Pobl gwerthfawr
Gwennu’n llawen, welaf i

Rhywle’n glyd mewn atgof
Ddaw’r Nadolig I’m lloni
Byw o hyd mae’r atgof
Yno mae’r canu
Yno mae’r caru
Yno mae’r teulu adre fo fi

Yno mae’r canu
Yno mae’r caru
Yno mae’r teulu adre fo fi

Tawel Nos

 

 

Dawel Nos

Dawel nos, Sanctaidd yw’r nos;
Cwsg a gerdd waun a rhos,
Eto’n effro mae Joseff a Mair,
Faban annwyl ynghwsg yn y gwair,
Cwsg mewn gwynfyd a hedd,
Cwsg mewn gwynfyd a hedd.

Silent night! Holy night!
All is calm, all is bright
Round yon virgin mother and child!
Holy infant, so tender and mild,
Sleep in heavenly peace!
Sleep in heavenly peace!

Gwyl Y Baban

 

 

Gŵyl y Baban

Gwyrth a rhyfeddod y seren fawr glir
Yn arwain yr heol i ni.
At breseb y baban, y plentyn bach tirion
ddaeth yn Waredwr i ti ac i mi.

Yno’n gorwedd mewn cadachau tlawd,
Yno’n cysgu yn drwm:
Babi bychan, yn frenin, yn frawd,
Yn gyfoeth mewn stabal llwm.

Daeth Gŵyl y baban â gwên ‘nôl i’r byd,
Deuwch, cenwch, clodforwch:
Dewch at eich gilydd a bloeddiwch ynghyd
Fel un, “Haleliwia”.

Tri o’r Dwyrain yn plygu eu glin,
A’u hoffrwm i’r babi yn ddrud.
Ond O! dyma offrwm i ni gan y babi,
Yr offrwm o heddwch i’r byd.

Daeth Gŵyl y baban â gwên ‘nôl i’r byd,
Deuwch, cenwch, clodforwch:
Dewch at eich gilydd a bloeddiwch ynghyd
Fel un, “Haleliwia”.

Un Seren

 

 

Un Seren
 

Pe bawn i’n gallu dweud wrth dad-cu
Fod ‘na ddynion wedi cerdded ar y lleuad
Byddai’n anodd ganddo gredu fod dyn wedi medru mynd mor bell, mor bell
Ond dyna ni, mae’n rhyfedd o fyd.

Pe bawn i’n gallu dweud wrth mam-gu
Fod ‘na sêr heibio’r sêr
yn ôl ein gwyddonwyr ni
Byddai’n anodd ganddi gredu fod dyn wedi medru gweld mor bell, mor bell
Ond dyna ni, mae’n rhyfedd o fyd.

O! Nid fel ‘na fu hi
Na, ‘roedd pethau yn well bryd hynny
Ond efallai mai fi sy’n hen ffasiwn

Un seren, un seren,
Dim ond un seren, oedd yn bwysig i mi,
Dim ond un seren fry uwch Bethle’m,
Dim ond un seren oedd yn bwysig i mi.

Dim ond un seren oedd yn bwysig i mi.

Nadolig Llawen I Chi Gyd

 

 

NADOLIG LLAWEN I CHI GYD
 
Brysiwch lawr y grisiau,
Syllwch ar bresantau,
Beic mawr coch ac aur,
Doli ddel i Mair.
Teulu a pherthnasau
A ffrindiau i gyd yn cwrdd,
Mae’r twrci leni’n werth ei weld,
Eisteddwch wrth y bwrdd.
 
Nadolig Llawen i chi gyd,
I deulu mawr y byd,
Ynghanol swn y dathlu
A oes na le i’r Iesu
Neu ydi’r llety’n llawn o hyd?     

Cytgan x 2